Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

1 PETHAU NAS CYHOEDDWYD' 3. LLYTHYR DAVID OWEN, Dewi WYN o EIFION', AT JOHN Jenkins.1 Ganwyd David Owen, Dewi Wyn o Eifion', amaethwr a bardd, yn 1784 a bu farw yn 1841, gan mlynedd i eleni. Bu llawer o ddarllen gynt ar ei awdl ar Elusengarwch ond yn awr ni chyfeirir ati ond yn anfynych, a hynny, gan amlaf, gan ambell hanesydd economeg wrth ddisgrifio cyni gweithwyr cyffredin yn ystod y blynyddoedd caled a ddilynodd frwydr Waterloo. Ar gyfer eisteddfod Dinbych, 1819, yr ysgrifennodd Dewi Wyn yr awdl hon, ond, ysywaeth, ni wobrwywyd mohoni. Dylid cofio hyn, efallai, wrth ddarllen y llythyr sy'n dilyn, llythyr a ysgrifennodd y bardd at John Jenkins,' Ifor Ceri' (1770-1829), Kerry, Sir Drefaldwyn, un o'r offeiriaid hynny-ac yr oedd Walter Davies, Gwallter Mechain a Ilawer o'i gyfoedion yn Ne a Gogledd Cymru o gyffelyb ansawdd-a wnaeth lawer iawn i noddi llenyddiaeth a cherddoriaeth2 Cymru trwy drefnu a chynnal eisteddfodau. Y mae'n amlwg fod Jenkins wedi annog Dewi Wyn i brydu ar Brif ymryson- bwngc y Cymry yn Eisteddfod Powys,' 1824. Dyma'r bardd yn ateb y gwahoddiad ac ar yr un pryd yn nodi rhai o feiau'r eisteddfod Pwllheli Hydref 14.es. 1824 Anrhydeddus Gymro, Lluosog a mawrion yw y cyfnewidiadau a'r dirwyniadau o eiddo natur a Rhagluniaeth y rhai sy' yn cyd droi ag olwynion anataliadwy amser, er pan gefais yr anrhydedd o'ch gweled a chyfnewid Drychfeddyliau a chwi yn y Dref hon, pryd nad amheuais yn y radd leiaf nad ewyllys da a pharch diffuant a'ch anfonent i'm cyfarch, ac wedi ymadaw a chwi teimlais edifeirwch os nad tristwch am na wnaethwn ryw gydnabyddiaeth mwy teilwng o'ch ymddygiad, Gan ofni y gallasech chwitheu fod yn edifarhau os nad yn tristau am eich 1 Dewiswyd y llythyr a argreffir uchod-yn Llsgr. N.L.W. 1893 y ceir ef-o blith amryw a geir yn y Llyfrgell Genedlaethol. (Gweler, er engraifft, Llsgr. N.L.W. 1011-14, a Llsgr. Cwrtmawr 413 a 480.) Gan fod cysylltiad agos rhwng Dewi Wyn,' fel ei gymydog Robert Williams (' Robert ab Gwilym Ddu'), a chapel y Bedyddwyr a elwir Capel y Beirdd' y mae'n werth dyfynnu ychydig eiriau yn niwedd llythyr (yn Llsgr. Cwrtmawr 480) a ysgrifennodd Dewi Wyn at [ ?ystiward Syr Thomas Mostyn] — The Lease of the meeting house which you have the goodness to have returned, signed by Sir Thomas Mostyn, is now signed by the Trustees, and kept by me. The House is use- full, and likely to be of great use and blessing, as a sermon is delivered there one part, and a school to teach the poor children of the neighbourhood to read the Bible kept the other part. 2 Y mae golygydd Cylchgrawn Cymdeithas Alawon Gwerin Cymru wedi gwneuthur defnydd helaeth iawn o gasgliadau John Jenkins o alawon gwerin Cymru, yn enwedig Melus Seiniau Cymru (Llsgr. N.L.W. 1940).