Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y DEDDFGRONAU CYMRAEG Copiau o un o'r tri Dull o Gyfraith Hywel-Llyfrau Blegywryd a Chyfnerth a Llyfr Iorwerth (neu Lyfr Gwynedd)-yw'r mwyafrif o'r llyfrau cyfraith Cymraeg, and fe geir mewn llawer ohonynt, yn ogystal a'r prif destun, ddefnyddiau eraill o amryw fathau, sef yr hyn a elwir yn y llyfr Ancient Laws and Institutes of Wales yn 'Anomalous Laws'. Nid yw'r corff mawr hwn o gyfraith ychwanegol i gyd o'r un ansawdd nac o'r un pwysigrwydd, ond y mae'r rhan fwyaf o adrannau cyntaf yr Ancient Laws (Book IV-VIII) i'w gweld mewn atodiadau i'r testunau hynaf sydd gennym; dyma ddarn gwerthfawr o gyfraith y drydedd ganrif ar ddeg. Y mae gennym hefyd dystiolaeth bod i'r defnydd pwysig hwn ei draddodiad dog- fennol ei hunan a'i fodolaeth annibynnol y tu allan i lawysgrifau'r Dulliau. Byddai cyfreithwyr Cymru trwy gydol y canrifoedd yn arfer dethol a chopio pethau a farnent yn werth eu cadw, gan ychwanegu eu sylwadau a'u hesboniadau eu hunain; deuai rhai o'r gweithiau hyn wrth reswm yn fwy adnabyddus na'i gilydd, ac fe fyddid yn eu copio hwythau yn eu tro a'u casglu at ei gilydd. 0 dipyn i beth, trwy eu mynych gopio ynghyd, gallai gweithiau llawer o ddynion fagu rhyw unoliaeth ym meddyliau'r copiwyr, a dod i'w hystyried yn llyfr cyfraith, ochr yn ochr a'r Dulliau safonol. Llyfrau cyfansawdd o'r math hwn yw llawysgrifau Peniarth 34 a 35, ac enghraifft ddiweddarach o rywbeth tebyg yw Wynnstay 38. Ail gyfrol Deddfgrawn William Maurice o Lansilin yw'r olaf, ac y mae ei enw yntau ar ei waith yn gwneud y tro yn iawn wrth gyfeirio at gasgliadau eraill o gyfraith ychwanegol. Deddfgrawn a ysgrifennwyd yn y bymthegfed ganrif yw Pen. 34, ac y mae arno olion tacluso a threfnu. Ac eithrio Deddfgrawn William Maurice, y llaw- ysgrif hon a'i chopiau sy'n cynnwys y casgliad llawnaf (yn wir, yr unig gasgliad cyflawn a chryno) o'r prif ddefnyddiau a geir yn yr atodiadau i'r Dulliau. Rhoddir isod fynegai i gynnwys y llawysgrif a'i dalennau yn y drefn y rhwymwyd hwy gan y Llyfrgell Genedlaethol, sef yn 61 rhediad rhesymegol y testun, ac nid yn 61 yr hen rifau sydd arnynt (rhifau William Maurice). Ochr yn ochr a hyn fe roddir rhifau'r tudalennau cyfatebol yn llawysgrifau Peniarth 163 a 224. Fe welir bod toriadau yn rhediad rhifau'r tair colofn, h.y., nid yw trefn rhifau unrhyw un o'r tair llawysgrif yn dynodi trefniant rhesymegol ar y testun. Y mae dalennau Pen. 34 wedi'u casglu yn unarddeg o afaelion, a chwe dalen sydd ymhob gafael, ac fe sylwir bod tor-rhediadau'r rhifau yn y tair colofn yn cyfateb i ddalennau olaf gafaelion yn Pen. 34. Er mwyn hwylustod fe ddosberthir y gafaelion o dan lythrennau yn 61 tor-rhediadau'r rhifau, fel hyn: a= 1-6, 7-12, 13-18; 6=19-24, 25-30; £ =49- 54, 55-60, 61-66; ^=31-36; e=37-42; f 43-48. PENIARTH 34 PEN. 163 PEN. 224 ir~7v a Rhaglith & Tair Colofn Cyfraith 119-130 424-448 7v-8v Trioedd, Adran (i) 130-132 449-453 8v-i8v Damweiniau, Adran (i) 132-152 454-495