Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

IORWERTH AP MADOG GWR CYFRAITH O'R DRYDEDD GANRIF AR DDEG Mewn llawer o'r llyfrau cyfraith Cymraeg ceir cyfeiriadau at ynaid neu wyr eraill; a defnyddiwyd rhai o'r enwau hynny i ffurfio enwau ar y llyfrau. Gwyddom rywfaint am rai o'r gwyr hyn oddi wrth ffynonellau eraill heblaw'r llyfrau cyfraith: er enghraifft, yn 61 pennawd y ddegfed bennod o Lyfr X Ancient Laws (a dynnwyd o lawysgrif Q, sef Wynnstay 36), 'Llyma lyfyr agy6eira6d Kynyr vab Cad6ga6n, ac aede6is gan Jor6erth y vab, ac a ede6is ynteu gan Gad6ga6n ac Eynon y veibon', a gwyddom oddi wrth gais y tywysog Llywelyn ap Gruffudd i Gomisiwn Edward I yn 1281 fod meibion Cynyr ap Cadwgawn yn ynaid yn Arwystli yr adeg honno.1 Yn llawysgrifau'r hyn a argraffwyd gan Aneurin Owen dan yr enwau 'Dull Gwynedd' a 'Venedotian Code', enwir Iorwerth ap Madog sawl gwaith fel awdur- dod. Dyma'r cyfeiriadau: (a) Breiniau Gwyr Arfon: V.C.II.ii.i; llawysgrifau A, E.2 (b) Dechrau'r Llyfr Prawf: V.C.III, Rhaglith, paragraff olaf; llawysgrifau C, D, K, LI. (c) Dechrau'r Atodiad i'r llyfr Prawf: V.C.III.xx.iya; llawysgrifau A, C, D, E (ni cheir y cyfeiriad hwn yn K, ac nid oes gennym dystiolaeth am Ll). (ch) Cyfarch Cyffyll: IV.iii.i; llawysgrifau A, E, Col, Ll. Oherwydd y cyfeiriadau hyn, teimlir bellach mai 'Llyfr Iorwerth' yw'r enw mwyaf priodol ar 'Dull Gwynedd'. Gwaith go anodd fyddai ceisio lleoli gwr o enw mor gyffredin ag Iorwerth ap Madog; ond mewn un llawysgrif rhoir ei enw yn llawnach: yn 61 C. 190 verso, yorverth vap madavc vap rahavt oedd y gwr a welodd fod yn gryno ysgrifennu gwerth y tai a'r dodrefn a chyfar a llwgr yd fel atodiad i'r Llyfr Prawf, ac os gellir derbyn hynny, mae'r gwaith yn llawer haws. Awgryma'r ffaith fod Iorwerth wedi'i enwi fel awdurdod ar Freiniau Gwyr Arfon mai gwr o Arfon oedd ef, ac o edrych ar achau a dogfennau Arfon ceir defnydd i'w leoli. Gan gychwyn gyda'r defnydd a geir mewn amryw lawysgrifau dan yr enw 'Bonedd Gwyr Arfon' neu 'Gwehelyth Arfon', a defnyddio'r hyn a geir am den- antiaid villa Dinlle yn y Record of Caernarvon a'r wybodaeth sydd yn y llyfrau achau, gellir llunio'r daflen achau sy'n dilyn y tudalen yma: rhoir mewn atodiad isod ymdriniaeth a'r defnyddiau y seiliwyd y daflen arnynt. Fe sylwir ar unwaith nad Iorwerth ap Madog yw'r unig wr o'i dylwyth a oedd yn adnabyddus am ei