Symud i'r prif gynnwys

HEN DDYDDIADUR 0 ENLLI Beth amser yn ol cefais fenthyg trwy garedigrwydd fy nghyfaill mynwesol, y diweddar Barchedig Tom Nefyn Williams, hen ddyddiadur o Enlli. Llyfr copi ysgol ydyw mewn cyflwr da, a'i fesur yn 91 modfedd X 71 modfedd. Pan gofiwn am gyflwr addysg yn Enlli yn ystod hanner olaf y ganrif ddiwethaf gellir dweud yn lied sicr mai dyma'r unig ddyddiadur gedwid yno. Tybiais felly y byddai cyhoeddi'r dyddiadur yn gymorth i daflu ychydig o oleuni ychwanegol ar hanes Enlli yn gymdeithasol a chrefyddol, ac fe'm hanogwyd yn gynnes gan Tom Nefyn i wneud hyn. Bu dau awdur wrth y gwaith o ysgrifennu'r dyddiadur, a'r ddau yn meddu llaw- ysgrifen ddestlus dros ben, ac yn bur debyg i'w gilydd. Dechreuwyd y dyddiadur gan William Thomas Jones, Ceunant, pan aeth i Enlli yn Weinidog-neu yn Genhadwr-yn 7 Ionawr 1875; ac y mae ei gyfraniad olaf yn gynnar yn 1883, pan adawodd yr Ynys. Nid oes air o eglurhad, na ffarwel na diolch ganddo wrth ymadael, ond cawn ei hanes yn 61 yno i gyflwyno ei olynydd i'r Ynyswyr. William Jones, Gosen, Llanaelhaiarn, oedd yr olynydd a gwelir ei nodiad cyntaf yn y dyddiadur ar y diwrnod y glaniodd-i2 Mawrth 1883. Bu ef yno yn weinidog am 26 mlynedd, ond yn anffodus mae ei nodiad olaf yn Rhagfyr 1898, ac ni ddywedir paham y bu hyn. Efallai bod cyfrol arall o'r dyddiadur ar goll, ond mae deg tudalen Ian ar ddiwedd y copi presennol. Siomedig i raddau ar un ystyr yw cynnwys y dyddiadur. Derbyniol iawn fyddai mwy o fanylion am fywyd cyffredin yr ynyswyr, eu harferion ar y ffermydd a'u dull o bysgota, eu coelion a'u hofnau. Llai diddorol i ni heddiw yw rhestr fanwl a roddir o destunau y pregethwyr ymweliadol. Ond y mae llawer nodiad yma ac acw yn rhoi gipolwg i ni ar gyflwr pethau ac yn cyffroi ein dychymyg. Mae cyfeiriadau at stormydd enbyd, llanw tra uchel, eira mawr yn gordoi'r Ynys, methu mynd drosodd i'r Tir Mawr, y cwch ar goll yn y niwl, y cyfarfodydd adloniadol ac yn y blaen; a thrwy hyn oil fe gawn amgyffred am fywyd tawel, digyffro efallai ar y cyfan, ond yn llawn o garedigrwydd a didwylledd. Sonir am longau o Gaernarfon ac Aberystwyth yn dod i Enlli yn lied ami yn yr haf gyda nifer dda o ymwelwyr ac fe ddeuai llongau glo yno wrth gwrs, ac unwaith beth bynnag 'man-of-war'. Ond yn rhyfedd iawn nid oes gyfeiriad o gwbl yn y dyddiadur at 'gychod mawr Enlli'; (coffa da am danynt bron wedi ymddeol yn llwyr i ddiogelwch cyrrau uchaf y traeth o afael y llanw yn fy amser i fel plentyn yn Llyn). Fe wyddis y byddent yn mynd yr holl ffordd i Lerpwl ar un adeg, (cychod agored oeddynt), gyda llwythi o gimychiaid a chrancod. Mae'n debyg fod y trefniant ar ben cyn 1875 gan y byddai'n llai didrafferth cludo'r nwyddau ar y tren o Bwllheli.