Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

EWYLLYS GYMRAEG Digwyddiad anghyffredin iawn ydyw taro ar ewyllys Gymraeg, yn enwedig ymhlith y rhai a berthyn i flynyddoedd cynnar y ddeunawfed ganrif. Dywaid y Canon John Fisher (1862-1930) mai dim ond dwy ewyllys Gymraeg a ddarganfu yntau mewn cyfnod cynharach ymhlith rhai cannoedd y bu ef yn eu darllen (gwel Arch. Camb., 1919, t. 181). Wrth 'wneud ewyllys' yr oedd hi'n arferol i gymynnwr o Gymro ddatgan yn Gymraeg ei ddymuniadau ynghylch y ffordd y carai ddosbarthu ei eiddo ar 61 ei farw, ond yn Saesneg (ac yn wir yn Lladin yn y cyfnodau cynnar yn union ar 61 oes Elisabeth I) yr ysgrifennid hi allan drosto. Felly, pan ddeuir ar draws yr eithriad, fe haedd a sylw. Wrth chwilio trwy rai ewyllysiau a berthynai i hen drigolion ardal Castell Nedd, Morgannwg, amy flwyddyn 1725, mi darewais ar un ewyllys hynod o ddiddorol i'r ieithegwr. Ysgrifennwyd hi i lawr air am air yn union fel y llefarwyd hi gan y cymynnwr a oedd, ar y pryd, yn gorwedd ar ei wely angau. Gwr o'r enw Morgan Griffith ydoedd, ac un o rydd-ddeiliaid ardal Castell Nedd. Ar 2 Awst, 1725, yn ei gartref yng nghlyw nifer o dystion, ynganodd y geiriau canlynol: 'hun uw fy ng wellus an nymuniad ogymen obethau ag y feddai ymod I yn u roi nwu vyngwraig-Gwenl[l]ian an nyminaid [sic] I ar yngwraig uw eddi Roddi haner coron um where a haner coron um mrawd.' Ac yn dilyn yr oedd y cyfieithiad Saesneg, sef: 'I give all and singular my personall [sic] estate to my loving wife Gwenl[l]ian and I request her to give half a crown to my sister and half a crown to my brother.' MOELWYN I. WILLIAMS Aberystwyth [SUMMARY Wills written in the Welsh language are rare. A testator would express his desires in Welsh and his lawyer or other adviser would set them down in English, or, at an earlier period, in Latin. Mr. Moelwyn Williams cites the nuncupative will of Morgan Griffiths of Neath, 1725, which records the original words followed by a translation.] PLAS MADOG BENFRAS Ymysg dogfennau Aston Hall yn y Llyfrgell Genedlaethol ceir cofnodion maenor Whittington, gerllaw Croesoswallt. Rhentol y gellir ei dyddio rhwng 1536 a 1547 ydyw Rhif 6855, y rhentol gyflawn gynharaf a erys inni. Yn y rhentol hon o dan drefgordd Porkington (Brogyntyn) cofnodir rhent am plac' terr' cum pertin' voc' Maddocke Benbras. Mewn arolwg o'r un cyfnod a gopiwyd yn 1572 (Rhif 6857) cyfeirir at yr un daliad fel place Madocke Benbras, lle'r ymddengys hefyd mai tir copyhold ydoedd. Cyfeirir ato hefyd mewn dwy weithred (Rhifau 224 a 227), wedi eu dyddio yn 1564 a 1574, fel messuagium a elwir Place Madoc Benvrace. Dylid nodi yma mai ystyr gyffredin y gair Lladin placia neu placea mewn dogfennau cyfreithiol oedd darn o dir neu dyddyn. Tyddyn heb fod ond cymedrol ei faint oedd hwn, a barnu oddiwrth y rhenti a roddir am y drefgordd.