WILIAM BODWRDA (1593-1660) GELLIR olrhain ach y teulu a ddaeth yn ddiweddarach i fabwysiadu'r cyfenw Bodwrda yn 61 at Drahaearn Goch, arglwydd Cymydmaen, sy'n ei gysylltu â chyff bonheddig Pymtheg Llwyth Gwynedd.1 1352 yw dyddiad y coined cynharaf a gadwyd o'r enw Bodwrda, sef cyfeiriad at y felin yn yr achos arbennig hwnnw.2 Mae'r plas yn edrych hyd heddiw bron yn union fel y gwnâi yn ystod oes Wiliam Bodwrda ei hun. Fe'i lleolwyd yng nghanol un o'r ychydig lecynnau coediog sydd i'w canfod yn ardal Aberdaron, nid nepell o Ian afon Daron, tua milltir o'r mor, mewn pant rhwng y ffordd i Roshirwaun a'r ffordd sy'n arwain i Lanfaelrhys a phentre'r Rhiw. Tybir fod rhan hynaf y ty presennol yn dyddio o ddechrau'r unfed ganrif ar bymtheg, a'i fod, cyn ei ehangu, yn ddeugain troed- fedd o hyd ac yn adeilad deulawr. Credir mai Huw Gwyn Bodwrda, tad Wiliam, a oedd yn gyfrifol am ehangu'r ty gwreiddiol tua'r dwyrain yn y flwyddyn 1621 (ceir y dyddiad hwnnw a'r llythrennau H.B. o fewn yr adeilad), a chodwyd dau estyniad o boptu'r drws gogleddol o friciau gwritgoch ac adnewyddwyd y ffenestri'n llwyr ar yr un achlysur.3 Gyda Huw Gwyn Bodwrda (c. 1573-1622) y gwelir dwyn i ben y cyfnewidiad yn hanes y teulu o fod yn deulu uchelwrol traddodiadol Gymreig i fod yn deulu o sgwieriaid sirol. Nid yw dweud hynny'n golygu fod aelodau'r teulu wedi cefnu ar eu cefndir Cymreig, ond yn hytrach eu bod o hyn allan yn ymglywed a" dylan- wadau o'r tu allan i'w cynefin ac yn ymateb iddynt. Digwyddodd hyn mae'n debyg yn ganlyniad i'r cyfnodau a dreuliwyd gan aelodau o'r teulu yn Rhydychen a Chaergrawnt.4 Ymhlith nodweddion yr ymglywed hwn A safonau Lloegr Elisabethaidd mae'r ffaith i Huw Gwyn fabwysiadu enw'r plas yn gyfenw teuluol yn unol ag arfer nifer o deuluoedd eraill sir Gaernarfon yn yr un cyfnod, e.e. Bodfel, Bryncir, Carreg, Madrun, Saethon, Trygarn, &c. Nodwyd eisoes i'r plas gael ei ehangu yn ystod ei oes i fod yn adeilad hardd yr olwg ac yn deilwng o deulu a oedd erbyn hynny yn aelodau cyson o Fainc yr Ynadon ac yn ddewis naturiol ar gyfer gweithredu fel siryfion.5 Y canu i Huw Gwyn a'i wraig sy'n cynrychioli penllanw moliant y beirdd i aelodau o deulu Bodwrda, o ystyried y dystiolaeth a oroesodd, sef cyfanswm o bymtheg eitem.6 Canwyd moliant iddo gan Lewys Dwnn (1602), Morus Berwyn, Rhisiart Cynwal, Sion Cain a Gruffudd Hafren (englynion); fe'i hanerchwyd pan oedd yn glaf gan Sion Cain, a chanodd Sion Phylip gywydd gofyn march iddo dros Huw Penllyn. Ceir cyfres o chwe chywydd marwnad iddo yn llsgr. (Bangor) Mostyn 9, ff. 35v-49r, o waith Rhisiart Phylip, Rhisiart Cynwal, Rhobert Dyfi, James Dwnn, Huw Machno a Gruffydd Phylip; ceir cywydd marwnad arall iddo nad yw yn y gyfres honno gan Cadwaladr Cesail. Pan fu farw Elsbeth Bodwrda, gweddw Huw, yn 1637, fe ganwyd marwnad iddi gan Watcyn Clywedog. Mae'n amlwg fod y cartref yn ystod oes Huw Gwyn yn gyrchfan nid yn unig i'r beirdd ond hefyd i ddysgedigion eraill. Adroddir gan Bob Owen, i Lewys