Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

WILIAM BODWRDA (1593-1660) II DR. J. GWENOGVRYN EVANS oedd y cyntaf yn y cyfnod diweddar i I sylwi ar fodolaeth corff o gopio llawysgrifol (yn cynnwys Llansteffan 122-125 a 187) a berthynai i'r un Haw. Ef hefyd, trwy nodi hynny yn y Reports a thrwy awgrymu pwy a allasai fod yn gyfrifol am eu copio, a fu'n gyfrifol am gamarwain lliaws o ysgolheigion yn ystod y ganrif hon i gredu mai John Price, rheithor Mellteyrn yn Llyn, oedd y copiydd anhysbys. Ymddangosodd y cymal tramgwyddus yn ei ddisgrifiad o lsgr. Llan. 187, lie dywedodd: This MS. is in the same hand as numbers 122-5 above, and may be that of John Pryce, Rector of Bullthearn [i.e. Myllteyrn] (p. 103). 59 Yr unig reswm tros iddo ddweud hyn oedd bod yn y llsgr. honno destun rhyddiaith y dywedid ei gyfieithu gan John Price, Mellteyrn. Yn ystod banner cyntaf y ganrif hon felly tueddid priodoli unrhyw lsgr. yn y Haw honno yn bendant a difeddwl i John Price, e.e. LlGC 560B yn y disgrifiad ohoni yn yr Handlist., cyfrol 1, t. 28. Y Dr. E. D. Jones a fu'n gyfrifol am dynnu sylw at wendid y dystiolaeth a gysylltai enw John Price â'r llsgrau. hyn, a hynny yn ei erthygl ar lsgr. Bro- gyntyn 4: A certain confidence, which is not entirely warranted by the evidence at our disposal, has grown of late years in attributing these manuscripts to the pen of John Price, rector of Mellteyrn in Caernarvonshire. It is only right that we should understand on how little the case stands. As far as I can find the first confident attribution of the hand to John Price, rector of Mellteyrn, is made, under MS. 560, in the typewritten catalogue of the National Library of Wales Manuscripts issued in 1932. Thereafter the attribution has been accepted without question. This identification, however, appears to me to rest on a very insecure foundation, for I know of no ground for it apart from a note by the scribe in his later hand, as an addition in the top left hand corner of page 103 in Llan- stephan MS. 187. As a description of the Welsh text beginning on that page, he wrote, some time after writing the text, or, if at the same time, in a negligent turn of hand, the sentence 'A piece of Granado his meditations translated by Jo: Pryse, Rector of Bull- thearn'. The scribe may have been referring to his own work but it is not of the nature of a signed copy.60 Gyda phetruster, felly, y nododd y Dr. Thomas Parry enw John Price, Mellteyrn, fel copiydd posibl llsgr. Wynnstay 2 yn rhagymadrodd Gwaith Dafydd ap Gwilym: