Symud i'r prif gynnwys

CYMREIGYDDION Y FENNI A DECHREUADAU IEITHEG GYMHAROL YNG NGHYMRU "X /N ei ragair i ailargraffiad y cyfieithiad Saesneg o Vergleichende Grammatik (1833-52) gan Franz Bopp (1791-1867)1 dywed y cyfieithydd fod y gwaith hwnnw wedi creu2 a new epoch in the science of Comparative Philology, and that it may be justly assigned a place in that department of study corresponding to that of 'Newton's Principia in Mathematics, Bacon's Novum Organum in Mental Science, or Blumenbach in Physiology'. Awgrym go glir bod rhai, o leiaf, o ieithyddion y bedwaredd ganrif ar bymtheg yn barod i gyfaddef bod camau pendant tuag at gydnabod astudiaethau ieithyddol cymharol yn wyddor o'r iawn ryw wedi eu cymryd gan Bopp. Yr oedd Bopp eisoes yn y rhannau ieithyddol o'i Conjugationssystem3 (1816) wedi cymharu'r Sansgrit a rhai o'r ieithoedd Indo-Ewropeaidd eraill ond i'r gwaith diweddarach hwnnw o eiddo Bopp y priodolir y clod o greu fframwaith newydd ar gyfer ymchwil ieithyddol. Yr oedd y berthynas rhwng y Sansgrit a'r ieithoedd Indo-Ewropeaidd yn hysbys, wrth gwrs, cyn cyfnod Bopp: yr oedd Syr William Jones (1746-1794)4 yr ieithydd o dras Cymreig eisoes wedi datgan yn 1786 bod perthynas glos rhwng y Sansgrit, y Roeg, y Lladin, yr Otheg, a'r Gelteg a'u bod oil yn tarddu o famiaith gyffredin nad oedd bellach yn bod.5 Yr oedd eraill, yn ogystal, wedi nodi cyfatebiaethau rhwng y Sansgrit ac ieithoedd Ewrob6 ond yn wahanol i Jones ni pherthynent i na chylch na chyfnod a gymerai eu sylwadau o ddifri. Nid oeddent, ychwaith, wedi ennill eu plwyf fel ieithyddion a oedd yn hyddysg yn ieithoedd y dwyrain. Am resymau cyffelyb anwybyddwyd bron yn llwyr sylwadau'r Swediad, Andreas Jager (m.1730) ynglyn a'r famiaith gyntefig.7 Nid gwaith Jones, sut bynnag, a hawliodd statws gwyddor annibynnol, gwyddor yn hawlio llwyfan iddi hi ei hun, i astudiaethau cymharol. Rhaid priodoli hynny i Bopp yn anad neb arall. Priodol cofio ar yr un pryd, sut bynnag, mai Jones drwy'r Gymdeithas Asialaidd a'r cylchgrawn Asiatic Reseaches, ill dau wedi'u sefydlu ganddo, a fraenarodd y tir ar gyfer y gweithgarwch ieithyddol cymharol a gyflwynir yn y Vergleichende Grammatik drwy sicrhau bod cynulleidfa barod ar ei gyfer. Y mae nifer o enwau o bwys yn brigo i'r wyneb ym mysg ieithyddion cym- harol dechrau'r bedwaredd ganrif ar bymtheg megis Jacob Grimm (1785-1863)8 awdur y Deutsche Grammatik (1819-37)9 sy'n cynnwys astudiaeth gymharol o nodweddion gramadegol y teulu Ellmynig o ieithoedd (yr Otheg, yr Almaeneg, yr Is Almaeneg, y Saesneg, y Ffrisieg a'r ieithoedd Sgandinafaidd). Yn ail- argraffiad y gyfrol gyntaf (1822), disgrifir y berthynas rhwng cytseiniaid yr