Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

gyhoeddwr a'i argraffydd oedd Thomas Gee, yr hynaf, o Ddinbych, a ddat- blygodd erbyn 1835 yn un o brif gyhoeddwyr ac argraffwyr Cymru. Ei olygydd oedd Owen Jones ('Meudwy Mon'), ond odid un o lenorion Cymraeg prysuraf y bedwaredd ganrif ar bymtheg.3 Brodor oedd ef o Lanfihangel Ysgeifiog yn Ynys Môn, a bu'n gweithio am gyfnod fel prentis saer coed, gwas fferm, ac athro cyn iddo ddechrau pregethu gyda'r Methodistiaid Calfinaidd tua 1827. Symudodd i'r Wyddgrug yn 1833 i weithio yn swyddfa argraffu'r brodyr John ac Evan Lloyd, ac yno y bu am yn agos i flwyddyn yn darllen llawysgrifau a chywiro proflenni Esboniad ar y Beibl o waith James Hughes ('Iago Trichrug'). Tra'n gweithio yn swyddfa'r brodyr Lloyd sefydlodd Owen Jones gylch- grawn misol ar gyfer yr ysgolion Sul yn dwyn y teitl Y Cynniweirydd yn 1834. Ymddangosodd deuddeg o rifynnau ohono dan ei olygyddiaeth cyn ei droi'n bapur newydd a rhoi iddo'r teitl Y Newyddiadur hanesyddol ym mis Ionawr 1835. Eithr dau rifyn yn unig o'r Newyddiadur a welodd olau dydd am i'w olygydd ym- Owen Jones ('Meudwy Mon') gymryd a gwaith clarcio yn swyddfeydd perchnogion Glofa Plas yr Argoed. 0 ganlyniad, gwahoddwyd Roger Edwards, yr Wyddgrug i olygu'r Newyddiadur hanesyddol, a'r peth cyntaf a wnaeth yntau oedd newid ei deitl i Croncil yr oes.4 Dan ei olygyddiaeth ef a'i olynydd Hugh Pugh, Mostyn, datblygodd Cronicl yr oes yn bapur misol radicalaidd a blaengar iawn. 'Roedd Owen Jones yn un o brif hyrwyddwyr y mudiad cymedroldeb yng ngogledd Cymru, a chwaraeodd ran flaenllaw gyda sefydlu'r cymdeithasau cymedroldeb cyntaf yn siroedd Dinbych a Fflint.5 Dengys ei anerchiad at 'Y Cymmro cu' a gyhoeddwyd yn y rhifyn cyntaf o'r Cymedrolwr ei fod yn ymwybodol o'r angen i gyhoeddi cyfnodolion yn Gymraeg i wasanaethu'r cymdeithasau hyn: Mae yn America luaws o newyddiaduron a chyhoeddiadau misol wedi eu cysegru yn neillduol at wasanaeth y Gymdeithas hon, ac yn Lloegr, bedwar neu