Symud i'r prif gynnwys

MATH 0 WALLGOFRWYDD: IOLO MORGANWG, OPIWM A THOMAS CHATTERTON It is rather odd for a person to be mad and at the same time in full possession of all his senses, memory and understanding, but something very much like this I experience at present.1 DYNA sut y disgrifiodd Iolo Morganwg (Edward Williams, 1747-1826) Igyflwr ei feddwl mewn llythyr at ei wraig Peggy yng Ngorffennaf 1792, bron fis ar 61 cynnal seremoni gyntaf Gorsedd y Beirdd yn Llundain. Ysgrifennwyd Ilawer yn ddiweddar am sefydlu'r Orsedd, ond prin yw'r sylw a roddwyd i gyflwr meddyliol y gwr a'i sefydlodd, yn ystod y flwyddyn gythryblus hon yn ei yrfa. Fe wyddys bod lolo'n defnyddio laudanum (sef tentur o opiwm mewn alcohol) yn wr ieuanc, ond mentraf awgrymu mai yn 1792, ac yntau'n ganol oed, y llithrodd, am y tro cyntaf, i stad o ddibyniaeth ar y cyffur a brofodd yn andwyol i'w iechyd. Mewn cyfres ryfeddol o lythyrau at ei wraig, ceir datguddiad o'r argyfwng a ddaeth i'w ran yn sgil y caethiwed hwnnw. Yn hyn o beth gellir ei gymharu a'i gyfoeswyr Samuel Taylor Coleridge a Thomas De Quincey yn Lloegr, oherwydd roeddent hwythau hefyd yn dioddef o effeithiau opiwm. Cyfeiriodd Coleridge at ei brofiad fel math o wallgofrwydd; mewn llythyr at Byron, yn 1819, soniodd fod y defnydd o laudanum yn esgor ar a specific madness which leaving the intellect uninjured and exciting the moral feelings to a cruel sensibility entirely suspended the moral will.2 Yn wahanol i Coleridge nid oedd lolo'n barod i gyfaddef mai ei ymrwymiad i'r cyffur oedd wrth wraidd ei salwch. Fel llawer o'i gymheiriaid ystyriai mai laudanum oedd ei brif gynhaliaeth, er bod iddo sgil effeithiau. 'I take a good deal of laudanum', meddai wrth Peggy yng Ngorffennaf 1792, 'and it keeps me alive but gives me no sleep'.3 Nid yw'n son am na gorseddau na derwyddon (hwyrach bod Peggy yn hen gyfarwydd a'i ffantasiau) ond yn hytrach mae ei lythyrau'n rhoi darlun grymus o'r uffern meddyliol a chorfforol a allai ddod i ran un a ddibynnai ar opiwm. Roedd uffern Iolo Morganwg, ar adegau, yn llawn mor enbydus a'r un a bortreadwyd gan De Quincey yn ei Confessions of an English Opium-Eater (1821). Nid gorddefnydd o opiwm yw'r unig beth sy'n cysylltu Iolo gyda Coleridge a De Quincey. Un o'r pethau mwyaf trawiadol yngtyn a hanes Iolo yn Llundain