Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

GORSEDD Y BEIRDD YN Y WLADFA Yn y flwyddyn 1881 roedd tair Gorsedd yn gweithredu yn annibynnol ar ei gilydd yng Nghymru, sef Gorsedd yr Eisteddfod Genedlaethol o dan archdderwyddaeth Clwydfardd, a oedd yn cael ei chynnal bob yn ail yn y de a'r gogledd, Gorsedd y Maen Chwyf neu Orsedd y Sarff Dorchog a sefydlwyd ym 1850 ac a gynhelid yn gyson bob blwyddyn ym Mhontypridd gan Myfyr Morganwg a fynnai ei alw ei hun yn Archdderwydd Ynys Prydain, a Gorsedd Taliesin neu Arwest Glan Geirionnydd a sefydlwyd yn 1863 gan Gwilym Cowlyd a arferai'r teitl 'Bardd Pendant' a chynnal ei orseddau ar Fryn y Caniadau neu Lyn Geirionnydd ger Llanrwst. 'Gorsedd ffug' oedd yr ymadrodd a ddefnyddiai Myfyr Morganwg pan soniai'n ddilornus am Orsedd yr Eisteddfod Genedlaethol, ond ymadroddion digywilydd Gwilym Cowlyd, pan ddeuai'r cyfle, oedd 'Gorsedd Satan' neu 'a counterfeit fabrication orfraudulentimposition'. Arferai llawer o feirdd Gwynedd a Phowys o'r chwedegau i'r wythdegau fynychu Gorsedd Taliesin yn ffyddlon. Un o'r beirdd hyn oedd Griffith Griffiths (Gutyn Ebrill). Ganed Gutyn Ebrill 19 Ebrill, 1829 yn nhafarn y Cross Foxes, Y Brithdir, Dolgellau yn unig fab i Hugh Griffith (1788-1851) a Jane Evans (m. 1845). Hanai ei dad o Lanfair Tal-y-llyn ac roedd ei fam yn ferch i David ac Ann Evans, Hafod- y-meirch, Y Brithdir. Claddwyd y ddau ym mynwent y Marian, Dolgellau. Ceir dau englyn o waith Gutyn Ebrill ar eu beddfaen; dyma un ohonynt: Blinder i'm hamser o hyd a gofid A gefais o'm mebyd. Nychais yn wan fy iechyd Nes gorffwys o bwys y byd. Cadwai ei dad dafarn Cross Foxes neu Gwanas Isaf fel y'i gelwid gynt. Dyma'r dafarn y galwodd Deio ynddi ar y ffordd i Dywyn yn 61 yr hen gan werin: Doed ymlaen ac heibio'r Dinas, Caed bara a chaws a chwrw Gwanas, Ei dad oedd saer hebrwng yr ardal hefyd. Hyfforddwyd Gutyn ei hunan i fod yn saer, a bu'n gweithio am beth amser ym Mhlas-hen Caerynwch gan fynychu ysgol a gynhaliai Ieuan Gwynedd yn y Brithdir. Ym 1847 aeth i Lerpwl lie