CREU TREFN 0 ANHREFN GWAITH COPIYDD TESTUN CYFREITHIOL Ymysg y llawysgrifau canoloesol sydd ar gael, mae tua deugain yn cynnwys testun o Gyfraith Hywel, nifer uchel o ystyried faint o lawysgrifau canoloesol Cymreig sydd wedi goroesi. Mae pob un o'r llawysgrifau cyfraith hynny ychydig yn wahanol i'r gweddill, felly mae ganddynt i gyd eu pwysigrwydd arbennig eu hunain.1 Gan fod nifer o'r llawysgrifau yn cynnwys nodweddion sy'n eu gosod ar wahan ym myd y llawysgrifau canoloesol, mae budd i'w gael o edrych ar bob un o'r deugain yn unigol. Pwrpas yr ysgrif hon, fodd bynnag, yw ystyried un o'r llawysgrifau hynny, llawysgrif sy'n dyddio o'r bymthegfed ganrif ac sydd, felly, yn destun cymharol hwyr ond, oherwydd hynny, yn destun hynod iawn. Mae'r testunau diweddar o Gyfraith Hywel yn wahanol iawn i'r testunau cynnar: gydag amser, caed datblygu ac ychwanegu at y gyfraith, ac felly erbyn y bymthegfed ganrif roedd llyfrau cyfraith estynedig ar gael, yn ami yn cynnwys testun o'r gyfraith ynghyd a 'chynffon' o ddeunydd ychwanegol. Gelwir y testunau hyn yn 'ddeddfgronau', ac mae chwe llawysgrif y gellid eu galw'n ddeddfgronau mewn bodolaeth heddiw.3 J, llawysgrif Coleg Iesu LVII, yw'r llawysgrif gynharaf o'r chwech, ac mae cynffon J yn fyrrach nag eiddo'r pum llawysgrif arall.4 Mae cynffonnau S (BL Add. 22,356) a Tim (Llanstephan 116), llawysgrifau o ganol y bymthegfed ganrif, yn hwy na'r prif destun; mae tebygrwydd hefyd rhwng y ddwy lawysgrif, ac maent yn yr un Haw5 Yna, cawn Q (Wynnstay 36), 8 (Peniarth 258) a P (Peniarth 259A). Copiau o Q yw £ a P, ac yn yr ysgrif hon hoffwn ystyried cynnwys llawysgrif Q a'i chopiau yn fanwl. Disgrifiad o'r llawysgrif a'i hanes Ni chynhwyswyd Q yn Report Gwenogvryn Evans, ac nid oes disgrifiad ohoni yno. Fodd bynnag, yn ei ddisgrifiad o S, nododd Evans: This MS. is the S of the Ancient Laws and Institutes of Wales: it is apparently a copy, more or less, of Q, which perished in the fire at Wynnstay, and belongs to the class of the later compiled versions.6 Roedd Evans yn anghywir ar ddau bwynt; nid copi o Q yw S, ac, yn ffodus ddigon, ni chollwyd Q yn y tan yn Wynnstay. Mae'r llawysgrif yn ddiogel yn y Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth heddiw yn llawysgrif Wynnstay 36.