Symud i'r prif gynnwys

DEWI WYN O EIFION. § I. CAFODD y bedwaredd ganrif ar bymtheg lawer o anfarwolion yn eu tro, ac o un i un diflanasant i dir angof. Efallai, a bod yn hollol deg, mai un o eiriau'r bardd bregethwr tua diwedd y ganrif oedd anfarwoldeb," ond yr oedd y dull o feddwl ac o feirniadu a awgrymir gan y gair yn nodweddu'r Cymry ar hyd y ganrif. Beth bynnag a ddywedwn am ansawdd opiniwn cyhoeddus heddiw, dyma un peth yr ydym wedi cael ychydig seibiant oddiwrtho; nid ydym bellach yn ymgreinio ar y ddaear o flaen yr Un Bardd Mawr, fel cwn bach o flaen y meistr. Y mae'n wir bod hyd yn oed yn yr oes olau hon anfarwolion," ond nid etholwyd hwy i'w braint ar dir llenyddol, ond oherwydd rhesymau hollol ddamweiniol. Y mae un yn anfarwol fel bardd a beirniad am ei fod yn bregethwr adnabyddus, arall am ei fod yn swyddogol yn yr Orsedd neu'n amlwg gyda'r Eisteddfod, arall am ei fod mewn swydd bwysig, ac arall am fod ganddo gyfeillion ymhlith gwyr y papurau newydd, ac arall eto yn fwy ffodus am fod gwyr y papurau newydd yn elynion iddo. Achosion tymhorol a damweiniol yw'r rhain, ac oherwydd hynny'n hollol ddiniwed, a phan ddiflanno'r amgylchiadau, fe ddiflanna'r anfarwoldeb hefyd, ac ni bydd yn rhaid i neb lafurio ymhen deng mlynedd ar ôl marw yr anfarwolion, i ddangos mor ddarfodedig oeddynt. Ond fel arall yr oedd tua dechreu a chanol y ganrif. Cafodd rhai beirdd safle ym meirniadaeth y wlad yn eu rhinwedd eu hunain, heb help unrhyw achosion allanol; a diddorol yw gwylio tynged rhai o'r prydyddion a roes eu delw ar y ganrif ac a werthfawrogid yn ôl anfar- woldeb" tybiedig eu gwaith; ac ohonynt i gyd, beirdd Eifionydd ag arfer enw bras-ddisgrifiadol yw'r esiamplau gorau y gwn i amdanynt o wyrni rhyfedd barn y cyhoedd mewn gwlad fel Cymru, oedd heb ddechreu magu hyd yn oed elfennau opiniwn cyhoeddus iach.