Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y NGWR I. COMEDI DDISGRIFIADOL. TOMOS BOWEN (neu BwEN) Labrwr, torrwr cerrig ac, yn ei oriau hamddenol, gweithiwr gwyntellau. BETI Ei wraig. ELEN Merch hen bobl Waunfrwyn. DAVY Myfyriwr. SAM Hooper. WILBACH Wyr Beti a Tomos. [LLE Waunfrwyn. Noswaith ym mis Ionawr I882. Cegin blaen, cwpwrt deri'n y cornel, bord scwâr 0 flaen y ffenestr, sciw yn ymyl y tân, a chloc ar astell yn ymyl y ffenestr, tair neu bedair 0 gadeiriau p/aen. Wrth dalcen y ty mae'r beudy Ue mae'r fuwch a'r Uo bach tair wythnos oed.] BETI Diolch i'r mowredd Mae dy dad wedi câl yr hen lo bach 'nol i'r boudy, 'rwy'n falch ta dim ond i ddistewi lleise'r hen fuwch na, ma'i hen gorn hi fel corn yr atgyfodiad. ELEN 'S dim cwily' arnoch chi, mam BETI Ma dy dad shwr o dreial bwrw'r bai arna i, mai fi adodd drws y boudy yn 'gored i'r tamed llo na i ddiangyd. ELEN Piti fod nhad yn gorffod redeg 'nawr hefyd 'Dyw e ddim yn mynd ddim yn ifancach fwy na chithe BETI Paid â chwyno dim ohono. Mae e'n meddwl i fod e mor gwic ag ario'd ELEN Wy i'n lico i weld e'n dod drwa' ma'r hen blant 'co'n dotio i glywed e'n gweyd am 'slawer dy'. BETI O fe a'i 'slawer dy' 'Dwy i ddim yn çredu y gwyr e bryd y mae e'n gweyd y gwir a phryd y mae e'n gweyd celwy'. Shwt ma William yco heddi' ? A'th e at i waith ?