Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

RONCESVALLES. Mwy hagen y difficy llaw a'rpin noe weithretoed mawrorydic ef [Siarlymaen] mal ydymchoeles ef hagen o'r urwydyr yn rwncyual y freinc, ac ual y bu y vrwydyr ygglyn mieri. Ac ual y gwnaeth diwed y uarchogyon yn yr yspaen" -Ystorya de Carolo Magno o Lyfr Coch Hergest. FYNYDDOEDD llwyd, a gofiwch chwi Helyntion pell y dyddiau gynt ?— Nid ydynt bell i ni, na'u bri Yn ddim ond sawr ar frig y gwynt. Ni ddaw o'n niwl un milwr tal, O'r hen oes fud, i Roncesvalles." Gwelsoch fyddinoedd Siarlymaen, Ai diddim hwythau oll achlân, Holl fawredd Ffraine, syberwyd Sbaen, Rolant a'i wyr, a'r Swleimân ? — Maent fudion mwy, a'u nerth yn wyw. Yn Roncesvalles yr hyn sy fyw Yw'n mawredd ni,—y gwellt a'r grug, Ac isel dincial clychau'r gyr, A'r gostyngedig wyr a blyg Pan glywont gnul, brynhawnddydd byr. Niwloedd a nos, y sêr a'r wawr, Yn Roncesvalles y rhain sy fawr." Lledodd y caddug tros y cwm (O glodfawr wrr, mor fyr yw clod!) Clyw-wn y da'n anadlu'n drwm (O fywyd, bychan yw dy rod!) Ac aros, nes i'r gwyll fy nal, A'r nos a fu,—yn Roncesvalles. Tng Nglyn y Mieri, IORWERTH C. PEATE. Medi 5, 1928.