Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

III A pha hyd bynnag bu Ei annaearol daith, Yn y diddymdra fry A thros y morlas maith, Dyfod i'r tir a wnaeth, A chylchu uwch y fan Lle llifa'r môr di-draeth Yn afon rhwng dwy lan. Yno o'r lliaws mân Chwilio y mae am un, — Yr enaid ar wahân, Y duw ar ddelw dyn­- Nes canfod yng Nghaer Saint, Yng nghanol gwyrda'i fro, Wr o ddifesur faint Yn dadlau iddo dro. Ac ar ei ysgwydd ef Y disgyn oddi fry Fel anfonedig nef, A garwhau ei blu. O'i flin adenydd daw Yn dristaf fu erioed Y llythyr dan ei llaw: A'i ddarllen yn ddioed. Y drudwy dewr ei hun Atega ddagrau taer Ac ocheneidiau'r fun O gegin y bell gaer. A chlod ei gamp a gerdd Hyd gyrrau'r ddaear faith; Ei siwrnai o'r Ynys Werdd, A'r modd y dysgodd iaith.