Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

IV Y chwedl nid edrydd ddim Dynged y deryn pur; Ai dychwel eto'n chwim, Ai gostwng dan ei gur Fu iddo'n wael ei wedd; Ai Brân ei hun a ddaeth Ac a wnaeth iddo fedd Petryal ar y traeth, Ai byrddio llong o'r llu, A chyrchu'n iach ei nwyf Yr Ynys Werdd i su Rhyfelwyr wrth y rhwyf. Yntau i gadw gẃyl Yn gwatwar cerddi'r tir; Dynwared yn yr hwyl Ac ar yr hwylbren hir Yr adar oll ar hwrdd  llawer pill o'i stôr: Y bronfraith ar y bwrdd, Y mwyalch yn y môr. A chrechwen yna mae Y llongwyr ar y IIi', Fel petai'r byd heb wae Na dwyfol drasiedi. R. W. PARRY.