Symud i'r prif gynnwys

SION DAFYDD RHYS. YN yr ysgrif hon, ac un neu ddwy arall os caniatâ'r Golygydd, ceisir dwyn tystiolaeth o blaid yr ychydig ffeithiau sy'n wybyddus am y Dr. Siôn Dafydd Rhys, canfod ei le arbennig ef ymhlith gwyr ei gyfnod a phrofi, hyd y gellir, ei fod yn gynnyrch nodweddiadol y Dadeni Dysg. I. Ei FYWYD. Nid rhaid bod fawr o amheuaeth ynglyn â man ei eni; Llanfaethlu ym Môn oedd honno. Yn nheitl ei brif waith, sef y Gramadeg Cymraeg, gelwir ef yn Monensis Lanuaethlæus Cambrobrytannus — Cymro o Lanfaethlu ym Môn. Y mae'n ffaith drawiadol mai'r cyfan a ddywedir am awdur llyfr a gyhoeddwyd yn yr Eidal-cawn sôn am hwn eto-yw Ioanne Davide Rhoeso Lanfaethlensi Autore": "Siôn Dafydd Rhys o Lanfaethlu yw'r awdur." Yn yr Athenae Oxonienses, sef hanes yr holl wyr amlwg a fu yng ngholegau Rhydychen hyd ddiwedd yr ail ganrif ar bymtheg, dywed yr awdur, Anthony Wood, ddarfod geni Siôn Dafydd Rhys at Lanvaethley in the Isle of Anglesey." Ychydig iawn a wyddys am ei rieni a'u hamgylch- iadau ond diau nad oeddynt yn llinach yr uchelwyr, oherwydd petaent, gellid disgwyl gweled yr ach yn rhywle. Yn wir fe ddywedir yn bendant gan Theophilus Jones yn ei History of Brecknockshire (arg. 1898, td. 518), "he had no pride of ancestry." Yr unig beth hollol ddilys ar hyn o bwnc yw nodiad yn ei law ef ei hun Gruphydh ap Rhys ap Dd Saer o Lan Bhaethlu yn nhal ebolion ym Mon, brawd oedh hwn i Dd ap Rhys tad Dr D." (Peniarth MS. 118, td. 711). Teg casglu mai Siôn Dafydd Rhys ei hun yw'r Dr. D." hwn, oherwydd geilw ef ei hun rai gweithiau yn John Davys, a gelwir ef felly gan ei gyfoeswyr. Dengys y nodiad mai gweithiwr cyffredin, saer, oedd hendaid Siôn Dafydd Rhys, bod « ei deulu wedi byw yn