Symud i'r prif gynnwys

CYMDEITHAS DAFYDD AP GWILYM, RHYDYCHEN. D IDDOROL yw darllen mewn papur newydd pell am rhyw Gymro eiddgar yn dadlau hawliau ei hen iaith neu yn anwylo traddodiadau'i genedl. Yng nghinio Gẃyl Dewi Brisbane, Queensland, Mawrth, 1930, clywid y Parch. D. Morgan Jones yn annerch y Cymry i gadw'u hiaith; galwai yr un llais mewn cinio arall ar Wyddelod i feithrin eu hiaith hwythau, ac yn ei eglwys ychydig fisoedd cyn hynny cyfarfu côr o hanner cant o leisiau Cymreig. Derbyn y Cymro hwn Y LLENOR yn gyson oddi wrth ei hen gyfaill Syr D. Lleufer Thomas; darllen lyfrau Cymraeg gyda blas, a hiraetha am dawelwch a phrydferthwch Dyffryn Tywi. Flynyddoedd yn ôl yr oedd yn ficer eglwys St. Paul, Llanelli, ac yn ysgrifennu llawer i Wales, cylchgrawn ei hen gyd-fyfyriwr Owen Edwards, ond o safbwynt yr erthygl hon rhaid ei weled yn fyfyriwr yng Ngholeg Worcester, Rhydychen. Daeth yno o dref Llandeilo, a'i Gymraeg, gan mai Saesnes oedd ei fam, yn bur anystwyth, ac ysgol Llanymddyfri, ar waethaf ei siarter, wedi ei wneuthur yn well ysgolor yn y clasuron nag yn ei iaith ei hun. Yn Rhydychen, wrth ddarllen yn ei oriau hamdden, y sylwedd- olodd D. M. Jones gyfoeth iaith a llenyddiaeth Cymru. Swynwyd ef gan delynegion Ceiriog; dechreuodd eu cyfieithu i'r Saesneg, ac, er ei fod yn ei flwyddyn olaf yn y Brifysgol a chymylau'r arholiadau'n croesi'r gorwel, pen- derfynodd ffurfio Cymdeithas Gymraeg yn Rhydychen. Ymgynghorodd â D. Lleufer Thomas, bachgen arall o ysgol Llanymddyfri, ac o'r un plwyf ag yntau, a chymerwyd y syniad i fyny gyda brwdfrydedd gan rai o'r myfyrwyr Cymreig. Ar ddydd Iau, y chweched o Fai, 1886, yn ystafell Owen Edwards, 15, Museum Terrace, cyfarfu'r "seithwyr da eu gair," D. M. Jones, Worcester; D. Lleufer Thomas, Non. Coll; J. Morris Jones, Iesu;