Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

DEUCANMLWYDDIANT LEWIS REES YN LLANBRYNMAIR.1 Canys er fy mod yn absennol yn y cnawd, er hynny yr wyf yn bresennol yn yr ysbryd, yn llawenychu ac yn gweled eich trefn chwi, a chadernid eich ffydd yn yr Arglwydd (Co/ossiaid ii, 5). NID dyma'r tro cyntaf y darllenwyd y geiriau hyn ym mhulpud Hen Gapel Llanbrynmair; chwi wyddoch mai dyma destun pregeth olaf Lewis Rees o fewn i'r muriau hyn, ar ei ymweliad olaf â'r fro. Ac yn sicr, os gallodd Lewis Rees lawenychu wrth weled trefn a chadernid ei hen eglwys dan weinidogaeth Richard Tibbott, mwy fyth fuasai ei lawenydd pe gallasai ragweld y dyfodol-cyfnod John Roberts a Samuel Roberts, Dewi Môn ac Owen Evans, a'u holynwyr hyd yn awr; cyfnod helaethu'r Hen Gapel drachefn a thrachefn, o hynny hyd y dydd hwn yr ydys wedi ei neilltuo i ailagor pyrth yr hen deml unwaith eto. Amlwg hyd heddiw yw trefn cynulleidfa'r Hen Gapel, a chadernid ei ffydd. Ac nid yw ond teilwng i ninnau ddechrau'r Ø1 ag ychydig eiriau ar Lewis Rees. Ni thâl imi heno fanylu ar ddyddiadau. Ni wnaf ond eich atgoffa mai yn 1710 y ganed Lewis Rees, yn ochrau Glyn Nedd, a'i fagu yn hen eglwys Blaen Gwrach, dan ei gweinidog Henry Davies. Yn 1734, ddau can mlynedd i eleni, y daeth i Lanbrynmair, yn syth o'r Coleg," fel y byddwn ni'n dweud heddiw. Ei goleg ef oedd Athrofa'r Maesgwyn, a'r gwr llym Vavasor Griffiths oedd ei athro. Byddwn ni athrawon weithiau yn bur gyndyn i ollwng ein gafael ar ein hoff ddisgyblion, ond yr oedd Vavasor Griffiths yn barnu'n wahanol; dyma a ddywedodd ef wrth y gwr ieuanc: y mae angen mawr am weithwyr yng ngwinllan Crist yng Nghymru, ac yr ydych chwithau yn ymddangos yn weithiwr parod i waith; ac yr wyf yn barnu mai eich dyletswydd yw myned at y gwaith yn ddioed." Felly pan alwodd Edmwnd Jones o Bont-y- 1 Un o'r anerchiadau ar ailagoriad yr Hen Gapel, a dathlu canmlwyddiant John Roberts, a deucanmlwyddiant Lewis Rees; Hydref 31, 1934.