Symud i'r prif gynnwys

YR ACADEMIAU ANGHYDFFURFIOL YNG NGHYMRU II. ACADEMIAU'R ANNIBYNWYR. FEL y dywedwyd, cychwynnwyd Academi yn y Fenni yn 1757 ac apwyntiwyd David Jardine, y gweinidog Annibynnol yn y dref, yn athro. Symudodd rhai o efryd- wyr Caerfyrddin i awyrgylch mwy uniongred y Fenni. Daeth y Fenni yn fath ar Gaersalem yng ngolwg yr Anni- bynwyr; cynhelid cyfarfodydd pregethu ynglyn â'r arholiadau blynyddol. Ond bu farw Jardine yn anterth ei nerth yn 1766, yn yr oedran cynnar o 34. Dilynwyd ef gan Benjamin Davies, gwr pwyllog a duwiol. Ymadaw- odd i Homerton yn 178 1, a phenderfynwyd symud yr ysgol i Groesoswallt i fod dan ofal Dr. Edward Williams, gwr enwog yn ei ddydd fel diwinydd; felly aeth chwech o fyfyrwyr a'r Llyfrgell o'r Fenni i'r Gogledd. Ymhen naw mlynedd ar ymadawiad Edward Williams i Carr's Lane, Birmingham, aeth yr Academi ar ei phererindod drachefn, y tro hwn i Wrecsam, lle yr arhosodd am 24 mlynedd dan ofal Jenkin Lewis. Dilynwyd ef gan Dr. George Lewis, ond yn 1816 derbyniodd ef alwad i Lanfyllin, a chymerodd yr Academi gydag ef, a thrachefn i'r Drefnewydd yn 1821 I-gyda chaniatâd y Bwrdd Cynull- eidfaol. Bu farw George Lewis yn 1822; yr oedd yn ysgolor da ac yn fawr ei barch gyda'i efrydwyr. Ei olyn- ydd oedd Edward Davies, M.A.; cafodd gynhorthwy Samuel Bowen am chwe blynedd, ond o 1830 hyd 1838, ef oedd yr unig athro. Y flwyddyn honno symudwyd yr Academi i Aberhonddu; gwnaed C. Nice Davies yn Brif- athro, ac Edward Davies yn athro clasurol. Yn 1836 penderfynodd y Bwrdd Cynulleidfaol fod yr eglwysi i ddwyn rhan o draul cynnal yr Athrofa; ymrwymai'r Bwrdd i gynnal naw o efrydwyr ac i gyfrannu £ 150 yn flynyddol tuag at gynhaliaeth yr athrawon. Yn 1841 1