Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Не y cynhelid yr ysgol; ceir darlun ohono yng nghyfrol V o Hanes Eglwysi Annibynnol Cymru. Marton, ar derfynau Amwythig a Maldwyn. Agorwyd ysgol yn y lle hwn gan y Parch. John Jones, brodor o Landdeusant, Môn, a sefydlwyd hefyd achos crefyddol, tua 1830. Bu'r antur yn llwyddiannus, a daeth amryw o ddynion ieuainc i Marton am addysg, yn eu plith rai a ddaeth yn enwog: John Thomas, Ieuan Gwynedd, Edward Roberts (Cwmafon). Un fantais ym Marton oedd y gallai'r tlotaf fforddio'r tâl a godíd-deg swllt y chwarter am addysg, a deunaw (ceiniog) yr wythnos am lety-ar wahân i gig a golchi! Hefyd, yr oedd y cylch yn fanteisiol i'r bechgyn i feistroli'r iaith Saesneg; caent gyfleusterau mynych i arfer eu dawn. Nid oedd yno namyn wyth o efrydwyr yn amser John Thomas, yr hwn a rydd hanes tra diddorol o fywyd ym Marton yn ei hunan-gofiant. Bu John Jones farw o'r darfodedigaeth yn 1840, ac arhosodd John Thomas ac Ieuan Gwynedd gydag ef hyd y diwedd. Ffrwd-y-fd/, Sir Gaerfyrddin. Y Parch. William Davies, Ph.D., oedd yr athro, ac ymhlith y disgyblion ceid amryw- iaeth diddorol,-Eglwyswyr ac Ymneilltuwyr, plant am- aethwyr a masnachwyr yn paratoi ar gyfer gwahanol alwedigaethau, heblaw bechgyn â'u hwynebau ar Golegau Caerfyrddin ac Aberhonddu. Ceir cyfeiriad at Ffrwd-y-fâl yn Hunangofiant Dr. John Thomas, oblegid yno yr aeth o Marton. Ymddengys nad oedd gan John Thomas feddwl uchel o'r athro; dywedai fod ganddo dalent i wawdio pethau cysegredig, ac ar fore Llun beirniadai bregethau'r efrydwyr y digwyddai iddo eu clywed y diwrnod cynt. Os na wyddai efrydydd ei wers, gwnai yr athro sbort ohono o flaen y dosbarth. Teg yw dweud yr anghytuna rhai â beirniadaeth John Thomas. Yn 1856 apwyntiwyd William Davies yn Athro Gwyddoniaeth yng Nghaerfyrddin. Ymhlith ei efrydwyr yr oedd Thomas Rees (Abertawe), Wm. Roberts (Aberhonddu), a Henry Oliver.