Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

ATGOFION ROBERT GRIFFITH. ÜA Robert Griffith ? Robert Griffith o Fanchester, awdur y Llyfr Cerdd Dannau a gyhoeddwyd yng Nghaernarfon yn 19 12-19 13; genedigol o'r Glog Ddu, Llangernyw; ei dad am flynyddau'n was boneddigion, a'i hendaid o ochr ei fam yn helsmon cwn llwynog i un o wyr mawr cymdogaeth Llanrwst. Gadawodd yr hen ẃr ar ei ôl chwip fawr a dau gorn hela, a deall bod ei hen nain wedi gwerthu'r trugareddau hynny a oedd yn un o brofedig- aethau mawrion bachgendod Robert Griffith. Braidd yn llym ar ei lyfr yw awdurdodau Cerdd Dant, dan gydnabod bod cyflawnder o wybodaeth fanwl am yrfa'r prif delynorion Cymreig yn Rhan IV. Nid ydym am losgi'n bysedd drwy ymyrryd â byd y cerddorion mwyaf piwus sydd yn y wlad; gwell cadw'n glos at Hunangofiant Robert Griffith, mewn tri llyfr çuarto, 542 o dudalennau, rhodd gan ei nai (y Parch. J. Francis Griffith 0 Garmel ger Treffynnon), ac ynghadw yn Llyfrgell Coleg Bangor. Ffolineb noeth fyddai ceisio cymharu tri llyfr Robert Griffith gyda thri ar ddeg Gweirydd ap Rhys. Yr oedd Gweirydd yn ysgrifennydd profedig 0 hir ddyddiau, yn llenor o broffes, yn llaw reiol dda ar gyfleu ei bethau gydag arddeliad effeithiol, a rhychwant ei wybodaeth a'i ddiwylliant yn cyrraedd ymhell. Saer oedd Robert Griffith, ac yn saer yr arhosodd. Serch hynny, y mae ei hunangofiant yntau'n gampwaith yn ei ffordd, mewn arddull gwbl ddiorchest, heb ddim tebyg i fursendod, gyda geirfa seml, ystwyth, wledig, yn taro i'r dim at ddisgrifio bywyd syml gwledig Llan- gernyw, Llanddoget, a Llanrwst yng nghanol oes Victoria; efallai mai ei ddawn fwyaf arbennig yw egluro techneg crefftau gwlad mewn termau cwbl Gymreig, heb bron byth syrthio i arfer gair o Saesneg. Ar ôl gadael yr Ysgol Nashion (fel y geilw hi) yn Llan- rwst, bu iddo am beth amser dwtian gweithio gyda'i dad yng ngwaith plwm Nant Bwlch yr Heyrn; cafodd dymor o weini yn y Tyddyn Uchaf, Llangernyw, gyda Glan Collen