Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

ADERYN BRANWEN. (I LI. Wyn Griffith, wedi gwrando arno, yn Harlech, yn adrodd stori newydd am Franwen, ond heb sôn am yr aderyn ynddi. Pan ddaeth i ddiwedd y stori, wele aderyn yn curo'n daer ar wydr y ffenestr.) A GOFI'R hwyr pan lithrai'r dydd i'r aig uwch llosg lonyddwch Llyn, a thithau'n denu yn ôl i'w chraig yn Harddlech y ryfeddol fun a roes i harddwch dristwch, dro, i dristwch harddwch byth, ac i'r aderyn hwnnw nyth uwch pob rhyw chwedl a fu, a fo ? Ti a'u gelwaist hwy yn ôl bob gwr­- Matholwch ac Efnisien, Nisien, Brân- a gyrru eilwaith Franwen dros y dwr i weddi o'i gwawd a'i throi'n ddi-gân. Ond ni ollyngaist ti'r aderyn hoff i'r nef: rhyw rith o'r oesoedd pell oedd ef nad aeth erioed o fôr i dir- rhyw gelwydd golau wedi'r gwir. A gofi-Na, ni hed o'r co'- annisgwyl hwrdd ei adain o, a churo a churo dig y taer, di-wrthod big ? Ar hedd yr hwyr nid oes a wyr o b'le y daeth. O fôr ? O dir? Ond gwyddai ein distawrwydd hir nad celwydd oll, nad celwydd oll mo'r gwir. T. ROWLAND HUGHES.