Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

BRENHINES Y LLYNNOEDD. MARGED UCH IFAN. MEWN bwthyn bach yng nghesail craig fawr ym mhen isaf Llyn Padarn yr oedd y wraig hynod honno, Marged Uch Ifan, yn byw. Y mae oddeutu dau gant o flynyddoedd er yr adeg honno, a'r pryd hynny yr oeddynt yn arfer "uch," neu "ach" am "ferch." Ganwyd Marged Uch Ifan yn rhywle o fewn terfynau plwyf Bedd Gelert y mae cofnodiad am ei bedyddio yn Eglwys Bedd Gelert, ym Mai, 1696. Yr oedd yn un o chwech o blant ei rhieni, a cheir cofnod am fedyddio pob un ohonynt. Enw ei thad oedd Ifan Powel, a cheir cofnod am ei gladdu yn Eglwys Bedd Gelert, Mawrth 5, 1739. Pan yn un ar hugain mlwydd oed, priododd Marged Richard Morris, a cheir cofnodiad o hyn eto yn Eglwys Bedd Gelert, fel isod Richard Maurice. Matrimoni1 Margaret Evan, 17 17. Y mae'n amlwg y bu Marged a'i phriod yn byw am gyfnod ym mhlwyf Llanllyfni, oherwydd y mae cofnodiad bedyddio plentyn iddynt yn yr Eglwys honno, fel isod "1722, Maurice ye son of Richard Maurice and Margaret his wife was Xned." Y ty cyntaf y mae gennym hanes i Marged fod yn byw ynddo oedd Tafarn y Telyrni ger Drws y Coed, yng nghwr uchaf Dyffryn Nantlle. Tafarn hen ffasiwn ydoedd, yn gwerthu cwrw cartref, mae'n ddiau. Yr oedd gwaith copr yn Nrws y Coed, a deuai'r mwynwyr o'r gwaith mwyn copr i dafarn y Telyrni am lasiad wedi noswyl. Yno y byddai Marged yn canu'r delyn iddynt i'w difyrru, ac yr oedd amryw o'r mwynwyr yn gallu canu penillion gyda'r delyn, a rhai ohonynt yn feirdd gwlad, yn alluog i gyfansoddi pennill ar fyr rybudd, megis y canlynol "Mae gan Marged Fwyn Uch Ifan Fegin fawr, a megin fechan, Un i chwythu'r tân i gynnau A'r llall i chwythu'r mwg i'r simnai." ^Fel yna, debyg. Ond y fformiwla arferol yw Matrimonio [s.c. conjunctt]. Gol.