Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

SYR JOHN LLOYD: ATGOFION AMDANO. I YN nechrau mis Hydref, 1899, y deuthum i mewn i Goleg Bangor, a chyn diwedd yr wythnos gyntaf yr oeddwn yn ddisgybl i John Edward Lloyd. I fod yn onest, nid oedd dim byd eneiniedig iawn yn ei ddull a'i fodd o ddarlithio, dim o'r nwyd a'r afiaith a nodweddai Syr Henry Jones, dyweder darllen, rhoi hanner tro i'w lygad chwith, darllen wedyn, cip eto i fyny, tynnu i lawr un o'r rhòl mapiau i ddangos rhannau neilltuol o arwynebedd Ewrob, plwc yn ei gynffon wedi gorffen ag ef, hwnnw yn neidio'n dyrfus i'w le er difyrrwch tawel i'r dosbarth-tawel a ddywedais, canys yr oedd urddas a syberwyd y darlithydd yn gorwedd yn drwm ar ysgwyddau'r dis- gyblion. Cyn diwedd y mis fe ddeuech i deimlo nerthoedd y darlith- ydd-pob gair yn ei le, dim gair yn ormod, dim ystumio ffeithiau i blesio rhagfarn, rhyw aeddfedrwydd addfwyn boneddigaidd yn sglein ar y cwbl wrth osod carictor yn ei le, wrth sadio cyfnod yn ei union orweddiad. Ie gwastadrwydd syber llyfn, heb ymgais at retoreg, dim yn galw am guro dwylo ar y diwedd. Ar ddechrau'r drydedd flwyddyn, yr oeddwn yn ddosbarth o un, ac ymlaen felly am ddwy sesiwn, y cyntaf i geisio am radd Anrhydedd mewn Hanes ym Mhrif- ysgol Cymru o Goleg Bangor. Tebyg un i gant âi'r dosbarth yn ei flaen o wythnos i wythnos, yn wastad, yn llyfn, heb retoreg, heb afiaith. Gwaith newydd a ddaeth i'm rhan oedd ysgrifennu traethawd iddo bob wythnos ac er fy mod erbyn hyn yn dipyn o ddyn yng nghyng- horau'r myfyrwyr, yn ysgrifennydd clwb y bêl droed, ac yn llywydd y Common Room, gallaf eich sicrhau y byddai'r traethawd hwnnw'n barod bob tro, canys nid dyn i chwarae mig ag ef oedd J.E.L. Gorfod darllen y traethawd yn hyglyw iddo ac i mi, a oedd wedi cael cymer- adwyaeth gynnes y cwrdd ysgol yn Nhalybont am araith yn llawn ansoddeiriau blodeuog ac ymadroddion penagored, go ryw boenus oedd gweled y blodau yn ffiwgro a'r maentumio ffansi yn gwelwi o flaen ffeithiau syml mewn gair, cefais y fraint o ail-ysgrifennu traethawd fwy nag unwaith. Os diffygiai gwr o dan y ddisgyblaeth lem hon, os ceisiai hepgor talu'r dreth drwy beidio â dod i'r dosbarth,