Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

^Cyfieithais y rhannau hynny o gân Schiller a ddefnyddiwyd gan Beet- hoven yn symudiad olaf ei Nawfed Symffoni gorawl. Bu cerdd Schiller ym meddwl Beethoven flynyddoedd cyn iddo osod ei geiriau i'w symffoni gorawl. Dechreuodd gyfansoddi'r symffoni hon yn 1817, a'i gorffen yn 1823 yn Baden-gwaith saith mlynedd. Yr oedd Beethoven yn hoff o gân Schiller, ond tua hanner y gân yn unig a ddefnyddiwyd ganddo yn ei symffoni, ac ni ddefnyddiodd chwaith y geiriau yn y drefn y ceir hwynt gan Schiller. Achosodd y trefnu a'r dewis gryn drafferth i Beethoven. Ni allai ei fodloni ei hun pa benillion i'w dewis o gân Schiller at ei bwrpas. Yn ei nodiadau paratoi, cyfeiria Beethoven at y darnau digyswllt abgerissene Sâtze y ceisiai eu trefnu a'u cysylltu er mwyn osgoi defnyddio'r gân faith ar ei hyd. Dywedir mai teitl gwreiddiol awdl Schiller oedd An die Freiheit "I Ryddid," ac nid I Lawenydd' o gwbl. Os felly, teifl hynny oleuni ar aml frawddeg gynhyrfus a chwyldroadol yng nghorff cerdd Schiller, yn en- wedig tua'i diwedd. Dangosodd Beethoven gryn chwaeth drwy wrthod rhai o gwpledau eithafol ac ymleferydd Schiller. Penillion cyntaf y gân yw y rhai gorau o ddigon, a'r rheini a osodwyd gan Beethoven i'w nawfed symffoni gorawl. Yr oedd Beethoven yn fyddar ers blynyddoedd, a'i eiriau olaf oedd cyn marw Mi gaf glywed yn y Nefoedd? AWDL I LAWENYDD.i (All die Freude-Schiller, 1785.) DI, Lawenydd, nef wreichionen, Rhiain deg Paradwys fry. Deuwn gyda hoen gorawen, I'th gynteddoedd nefol di Pan fo dulliau'r byd yn ysgar, Clymu eilwaith mae dy swyn Brodyr fydd holl deulu'r ddaear, Dan dy adain dyner fwyn. Côr Cydgofleidiwch, chwi filiynau Deyrnas cariad is y rhod Frodyr-tirion Dad sy'n bod Draw tu hwnt i'r sêr-droellau.