Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

boblogaeth, tra nad oeddynt ym Mon ond oddeutu un o bob 3,000. Yr oedd swm cyfartal i un rhan o dair o ar- drethion y tiroedd mewn rhai parthau o'r Ynys Werdd yn cael eu treulio am wir- odydd. Eu diod neillduol hwythau oedd chwisgi, sef aqii(t ritce, — dŵr y bywyd." Yr oedd gwyr da yr Amerig yn par- hau i gydystyried beth allent ei wneyd er alltudio meddwdod o'u gwlad,-oherwydd ei alanastra anaele, ac ar y dydd cyntaf o Chwefrol 1826, sefydlasant Gym- deithas Cymedroldeb," — a'i hamod aelod- aeth oedd llwyrymwrthod â'r gwirod, tramgwydd corff y werin, ac yfed cwrw a gwin yn gymedrol. Ei dysgeidiaeth oedd fod gwirf yn meddwi, ac yn niweidio cyríf ac eneidiau dynion. Drwy ymdrechion fyrdd, fe lwyddwyd i ennill y wlad yn gyffredinol i fagu egwyddorion dirwest, ac i wybod beth oedd cenadwri dirwest wrth bob dyn. Cynyrchodd hynny chwyldroad trwyadl mewn cym- deithas yn yr Amerig. Yn 1829, daeth y diwygiad drosodd i Brydain, trwy sefydliad Cymdeithas Cymedroldeb," yn New Ross, yr Iwer- ddon, trwy lafur y Parch. J. Carr a'r Proffeswr Edgar, o athrofa Belfast. Dyma fam pob cymdeithas i hyrwyddo sobrwydd yn Ewrob. Gwnaeth les an- rhaethadwy drwy gyrion mwyaf anghys- bell yr ynys. Gwreiddiodd ei hegwyddor- ion yn fuan yn Lloegr, a thros y môr i dywysogaethau yr Almaen, Prwssia, Awstria, Norway, a Sweden. Cymerodd teulu brenhinol y wlad olaf yr ymrwym- iad yng nghyntaf rhai, a bu hynny yn symbyliad er daioni yn eu tiriogaeth. 1n o'r Cymdeithasau cyntaf a sefydl- wyd gan Gymry oedd un Manceinion yn Hydref 1832, a ffurfiwyd canghen Gym- reig gref ac ymroddgar odiaeth yn Llyn- lleifiad yn Chwefrol 1833. Cyn pen dwy flynedd yr oedd gwahanol ganghennau o honi ym mhob ardal o'r bron drwy Gymru. Rhoed anogaeth cyffredinol ar i bawb lawnodi yr ardystiad yn Sasiwn Caernarfon, Medi, 1833, a thraddodwyd llawer pregeth rymus ar ddirwest o bul- pudau y wlad. Traddododd y Parch. Henry Rees bregeth nodedig yn Sasiwn y Wyddgrug yn 1834, o blaid y Gym- deithas. Fe'i hargraffwyd, a thaenwyd hi wrth y miloedd drwy Gymru. Cy- hoeddwyd rhai traethodau hefyd, i oleuo y werin, fel yr oedd dirwest yn llwyddo ymhobman. Yn ol adroddiad Cym- deithas Cymedroldeb Brytanaidd a Thrar mor," am Chwefrol 1834, yr oedd nifer y rhai a ymrestrodd â'r Gymdeithas trwy Lloegr a Chymru, heb son am yr Alban a'r Iwerddon, yn 73,530. Gan na chym- erai y cyfri hwn i mewn yr holl Gym- deithasau yng Nghymru, y rhai a gyn- hwysent amryw gannoedd o aelodau, nac ychwaith ond rhan o rif Cymdeithasau Cymreig Manceinion a Llynlleifìad, cred- ent y dylai y cyfanrif fod tua 120,000. Cynhyrfodd egwyddorion y Gymdeithas gymaint ar y wlad nes y tynnwyd llawer o fawrion i ddyfod o'i phlaid. Ysgrifen- nodd Dr. McNish lyfr yn erbyn drygau meddwdod, ac yn erbyn gwirf fel diod gymhwys ac iachus i ddyn. Llwyddodd James Silk Buckingham, trwy ddyfal- barhad, i gael gan y Senedd ffurfio pwyll- gor i chwilio drygau meddwdod yn y deyrnas hon. Bu ymchwiliad manwl i'r pwnc, a chaed tystiolaethau amrywiol a phwysig, gan feddygon, masnachwyr, ceidwaid carcharau a thlotai, ac ereill. Argraffwyd yr oll, yn gyfrol chwe' swllt, a lledaenwyd hi gan gyfeillion cymedrol- deb i bawb. Yn ol ysgriflyfrau Gruffydd Prisiart cawn fod Beddgelert yn un o'r lleoedd cyntaf i ffurfio canghen o'r Gymdeithas yng Nghymru, ac efe ei hun oedd y mwyaf blaenllaw yn ei chychwyniad. Efallai fod a wnelo ysbrydiaeth y Di- wygiad Mawr" a pharatoi y ffordd i symudiad mor ddieithrol i'r mwyafrif gwledig. Ond yr oedd Gruffydd Prisiart yn arweinydd di-droi yn ol yn ei amcan- ion, gan ei fod yn darllen, ac yn gwybod am lwyddiant a daioni y Gymdeithas yma. Dyma fel y ceir y manylion gosod- edig am sefydliad Cymdeithas Cym- edroldeb Beddgelert, Ebrill 10fed, 1834, TR TMBWTMIAD. "Yr ydym ni, (gyda chymhorth Duw, Amen!) yn cytuno i ymgadw yn glir oddiwrth wirodydd poethion, ond yn unig fel meddyginiaeth; ac i arfer pob cymedroldeb wrth ddefnyddio diod frâg, ac i wrthsefyll anghymedroldeb hyd eithaf ein gallu." RHEOLAU. I. Nad oes dim arian yn cael ei ofyn gan neb wrth ei dderbyn yn aelod, ond dymunir ar i bob ewyllysiwr da roddi ychydig at unrhyw draul a welir yn eisieu. II. Nad yw y Gymdeithas hon yn gosod un- rhyw orfodaeth ar neb, ond gadael i bob aelod fyw i fyny â'i ymrwymiad. III. Os dygir cwyn yn erbyn unrhyw aelod, ei fod wedi arfer y gwirodydd poethion, neu feddwi yn gyhoeddus, ei fod i ateb drosto ei hun, neu, trwy gyfryngwr, neu dyst. Os edifarha, rhoddir