Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Noda Goronwy Owen yma fel y can- lyn,— Hyn a rhan fawr o'r hyn a ganlyn sy'n pen- odi at ryw ddamweiniau a ddigwyddasant ddo, ennyd cyn ei farw; ac nid rhaid i'w gydnabydd- iaid wrth nodau, amgen na'u coffadwriaeth i'ir hegluro." Hefyd crybwylla Goronwy am ryw ychydig o anghydfod fu rhyngddo yntau a Lewis Morris, unwaith yn Llundain, sef i'r olaf ei weled yn ysmocio mewn cysyllfc- iad ag yfed; ac yn yr olwg honno, dy- wedai wrth Goronwy ei fod fel iar mewn mwg, ond daethant i gymod heddych- Lìanyefni. WÈÈ )É^ì|^ALFREIDDYN, neu Graig Freiddyn, sydd fynydd tra uchel ar derfynau sir Am- 1 wythig a Threfaldwyn, ac pŴSMSi^j mewn ychydig nifer o fill- diroedd o dref y Ira- llwm Coch ym Mhowys. Canfyddir golygfeydd eang ac ysblenydd oddiar ei goryn, ac ymwelir â'r lIe gan gannoedd lawer o ymdeithwyr yn ystod tymor yr haf, y rhai a fwynhant y golygfeydd yn ddirfawr, yn enwedig ar rannau helaeth o siroedd Trefaldwyn, Dinbych, a Meir- ion. Dywed hen draddodiad fod yr un drwg wedi cymeryd yn ei ben un diwr- nod i atal rhediad yr Hafren er mwyn ymddial ar rannau o sir Drefaldwyn a'r Amwythig,- So one eve the Fiend like death Was seen puffing short of breath Over ravine, steep, and crack; With huge Breiddyn on his back, He being tired, old folks say, Left it where 'tis seen to-day." Hynodir Talfreiddyn gan olion hen amddiffynfeydd, y rhai a adeiladwyd, medd traddodiad, gan Caradog ab Bran, am mai yno y gwnaeth ei wrthsafiad olaf yn erbyn y Rhufeiniaid pryd y gorchfyg- wyd ef gan Ostorius a'i fyddin. Yr oedd y lle yn nodedig fel gwersyllfan gan lawn ar ol hyn, ac mae yr awdl farwnad yn profi fod cyfeillgarwch o'r mwyaf rhwng y ddau hen gyfaill. Yr oedd pro- fedigaethau Goronwy yn ei yrru yn aml i wneyd llawer o bethau nas mynnai. Yr oedd yn byw mewn adeg ddigalon i Gymro teilwng i geisio amddiffyn ei iaith a'i genedl o herwydd bod yr esgob- ion Seisnig am ddifodi yr iaith a'r genedl. Dyma fi wedi traethu ychydig yn fyr ar nodweddion a chymeriad Lewis Mor- ris, ond gallaf ddyweyd, fel brenhines y deau am Solomon, na fynegwyd mo'r hanner. ASIEDYDD. Talfreiddyn. Gorwyliais nos yn achadw ffin, Gorloes rydau dwfr, dygen Freiddyn. Gwalchmai. Walchmai ab Meilir pan yn gwylio yn fynych symudiadau rhyfelgar y Saeson o amgylch Pengwern Powys a'r ardaloedd amgylchynol. Priodasid Gwalchmai a Cenhedles ferch Gwrgeneu ab Ednowain, Arglwydd y Bryn, yn Llanblodwel, sir Amwythig, ac felly nid oedd yn bell iawn oddiwrth Talfreiddin. Hoffai Llywelyn Fawr gyrchu yn fynych i'r lIe gyda'r un amcanion brwdfrydig a Gwalchmai. Myn traddodiad i Harri Tudur a Syr Rhys ab Thomas a fyddin Gymreig wersyllu yn y lIe er mwyn aros am Syr William Stanley a Syr Thomas Mostyn, a gwyr siroedd Dinbych a Fflint i ymuno â hwy ar eu hymdaith i faes Bosworth i dynnu y dorch am goron Lloegr â Dic Grwm, y Baedd creulon. Neilltuwyd Talfreiddyn gan foneddig- ion sir Drefaldwyn fel íle cymwys i ad- eiladu colofn er cof am fuddugoliaethau Rodney ar lyngesoedd Ffrainc yn yr India Orllewinol, ac am fod llongau Lloegr y pryd hynny wedi eu gwneud o dderw dyfodd yn sir Drefaldwyn. Deehreuwyd defnyddio y derw hyn yn y Llynges Frydeinig yn 1730. Defnyddid y coed yn flaenorol yn danwydd; ond pan ddarganfyddodd y Llywodraeth eu gwerth, gwnaed cryn ddefnydd o honynt yn y llyng- es, ac yr oeddynt yn hawlio y pris