Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

iad hynod yma yn perthyn i'r ganrif ddi- weddaf neu i ran o honi, er fod darllen ei hanes yn peri i un feddwl am gyfnod y canol oesau, gan mor dywyll ac anystyriol oedd gwerin Cymru yn nechreu y ganr11 o'r blaen. Cerddai Nanws bob Sul 0 Dolyddelen i Lanberis, i wrando pregeth, drwy gorsydd llaith, rhwng bryniau cribog Eryri. Bu yn foddion i adeiladu capel yn Nolyddelen, nid yn unig gyda'i harian, ond gyda llafur caled. Hwn oedd y capel cyntaf yn sir Feirionnydd grefyddol. Car- iodd Nanws y coed ato, a llosgodd ddigon o ludw rhedyn i dalu am danynt. Def- nyddid lludw rhedyn y pryd hwnnw i wneyd sebon. Bu o dan ddysgeidiaeth Howel Harris yn Nhre- feca am gyfnod. Yr oedd Charles o'r Bala a hithau yn gyfeillion mawr. Bu ei dylan- wad yn foddion i wneyd i ffwrdd ag ofer- goelion a gwylmab- santau y cyfnod hwnnw. Ond gwasanaethodd llu o ferched ar- dderchog dros yr un achos. Cymerwn un enghraifft, cymer- iad dychmygol, ond eto mor wirioneddol. Cymeriad godidog o e d d Mari Lewis, mam Rhys Lewis,- neu Daniel Owen. Mae ei deyrnged iddi ar ol ei adael yn un o'r pethau tyneraf ar dudalenau hanes, ac mae ei chyngor iddo yntau yn gyngor a erys byth yn hanes ein cenedl. Dyfynnaf ychydig frawddegau o hono,- Os gelwir arnat i ddiodde yn y byd yma, paid a chwyno, achos mi wneiff hynny i ti feddwl am fyd nad oes diodde ynddo. Paid a gwneyd dy gartre yn y byd yma, ne mi fydd marw yn fwy o job i ti nag wyt yn feddwl. Cymer y Beibl yn weather glass i dy enaid; os byddi yn colli blas ar ei ddarllen o, mi elli fod yn siwr nad oes hindda yn dy aros. Treia gael crefydd na fydd gan neb ddowt am dani, ao na fyddi di dy hun yn ei dowtio. Treia gael crefydd y bydd ei chynfas yn lapio rhiwyn heblaw ti dy hun. Os gelli fod yn foddion i achub un enaid, mi ymwthi yn mhellach i'r nef- oedd ar ol i ti farw na bydase ti yn werth can mil o bunnau, ac heb wneyd. 'Does gynat ti ddim lIe i ddisgwil ceiniog gan dy berthynase, ond mi elli fod y cyfoethoca yn y wlad mewn gras, os ceisi di. Fase dim son am Abram oni bai fod ganddo riw. BUDDUG. Awdures "Ona byddai'n haf o hyd." beth gwell ar ei elw na chamelod. Yr ydw i yn mynd i dy adael di, ac mae gen i hyder fy mod i yn llestr trugaredd." Mi ffeindi yn y pwrs sydd yn mhoced y ngown du i just ffit o arian i dalu am y nghladdu i. Mi fase cystal gen i a llawer pe dase gen ti dipin o ddawn pregethu. Ond 'does mo'r help. Treia fod yn ddefnyddiol hefo chrefydd yn mha gylch byn- nag y byddi di, ddifaru di byth. Os medra i dy weld di o'r byd arall, mi leiciwn dy weld di yn flaenor." Dyna'r ffynhonnell y bu prif nofelydd ein cenedl yn sugno ysbrydoliaeth o honi. Can mlynedd i wanwyn y flwyddyn 1800, gallesid gweled geneth ieuanc un ar bymtheg oed yn cychwyn yn blygeiniol ryw fore o odreu Cader Idris ar ei thaith i'r Bala. Gwenai ffurfafen las, ddigwmwl, uwch ei phen. Mur- murai yr awelon yn dyner a chalonogol. Cydymdeimlai holl el- f e n n a u natur â r fechan, unig, droed- noeth, ac edrychai yntau, llygad mawr y nefoedd, yn serchog a sefydlog arni. Yr oedd holl leisiau'r greadig- aeth y bore hwn yn dweyd- Dos ymlaen yn galonnog, y fechan ddewr, mae Duw y Beibl a ninnau oll a'n llygad a'n gwenau ar- nat." "Trwy ddirgel ffyrdd mae'r uchel Ior yn dwyn ei waith i ben, — a dyma un o'r ffyrdd hynny. Mae cysylltiad agos rhwng y ffaith fechan, ym- weliad Mary Jones â'r Bala, ag un o'r ffeithiau pwysicaf yn hanes Cristionog- aeth, nid yn unig drwy Gymru, ond drwy'r byd. Dyma eginyn y syniad o gael Beibl i bawb o bobl y byd," dyma sylfaen y Feibl Gymdeithas sydd wedi gwneyd cymaint yn ystod y ganrif i ledaenu Beiblau mewn gwahanol ieithoedd drwy holl wledydd y byd. Dyddorol yw hanes Mary Jones o'i mebyd i'w bedd. Nid merch gyffredin oedd. Rhaid fod ganddi ysbryd gwrol a phenderfynol i gerdded dwy filldir bob wythnos am chwe blynedd, drwy bob tywydd, ar hyd ffordd arw, i drysori gwybodaeth o Feibl benthyg, ac yn ystod yr un cyfnod yn cadw ei dimeuau a'i