Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Tane Hughes Pontrobert. ERTHYGL ragorol ac amserol iawn yw yr un ar Gymrues- aur ^anr" ddiweddaf yng N GHYMRU cyntai y ganrif ddi- eithr; ond rhaid 1 mi gael dweyd yn onest yr haeddai Jane Hughes o bonrnobers well parch nag a roddir iddi yn yr erthygl. Pan yn desgrifìo hen gymer- iadau, dylid amcanu eu desgrifio yn deg, fel yr oeddynt y mae yn wir, ond fel yr oeddynt ar eu goreu, cofìer. Y mae pob portrait painter ag y byddo yn werth eis- tedd o'i flaen, nid yn unig yn ymgais at roddi tìurf pob rhan or wyneb yn gywir a tíyddlawn ar y llian, ond hefyd, y mae yn gwylio i ddal y wedd, yr expression goreu posibl ar y wyneb. Adwaenwn Jane Jtíughes yn dda unwaith, fel yr oedd fwy na deugain mlynedd yn ol, cyn iddi dde- chreu tramwy y wlad; i ba beth y dad- blygodd yn ddiweddarach, nis gallaf ddweyd, am i mi golli golwg arni o hynny ymlaen. Meddai ar dalent amrywiol a chyfoethog; yr oedd yn brydyddes dda, a chyfansoddodd lawer iawn yn ei dydd; ond gallu i siarad, i areithio a gweddio, oedd ei gallu mwyaf a chryfaf. Ond, yn an- öodus iddi hi, daeth i'r byd (Cymreig) yn rhy gynnar yr oedd o flaen ei hoes, ac am hynny cyfrifid hi yn hynod. Merch ydoedd, ac nid oedd Uranogwen wedi ym- ddangos eto, a pheri i'r Cymry ddeall, a theimlo, a chydnabod, fod gan ferch hawl i siarad. Y rhai hynny sydd yn cofio y cyfnod pre-Cranogwen, gwyddant am y rhagfam oedd ym mhawb yn erbyn i ferch athrawiaethu yn gyhoeddus, a dioddefodd Jane Hughes lawer oddiwrth y rhagfarn hwnnw. Cafodd lawer o'i sarhau gan ei salach o blith y ddau ryw, ac yr oedd ei theimlad hithau mor fyw, oblegid onid oedd mewn mwy nag un ystyr yn ferch i'r hen bregethwr anibynnol a thywysogaidd o Bontrhobert, yr hwn ni chaniatai i wr cyfrifol unwaith ddi genglu ei geffyl iddo, am nad oedd cymeriad moesol y gwr yr hyn ddylasai fod? Yr oedd Jane Hughea yn dlawd hefyd, pechod y dylai pawb ym- groesi rhagddo, oblegid y mae yn bechod na faddeuir byth-gan ddynion. Heblaw hynny, tybiai rhywrai nad oedd ei synwyr cyifredin yn gwbl ogyhyd â'i synwyr ang- hyffredin; ac onid felly y mae yn fynych ymhlith, yr arglwyddi—y dynion! An- ami y ceir y ddau synwyr yn cydgyfarfod yn helaeth yn yr un rhai. Ond nid oedd raid iddi iod yn brin o synwyr cyffredin i beri i bobl edrych dan eu haeliau arni; yr oedd yn llawn ddigon ei bod wedi der- byn mesur helaeth o'r llall iddynt i wneyd telly. Yn negfedau cyntaf y ganrif syad newydd redeg i'r pen, arferai dau frawd grwydro siroedd Peníro, Oaerfyrddin, ac Aberteifì, am eu tamaid bara, am nad oedd- ynt wedi derbyn gallu i'w ennill trwy weithio am dano. Gelwid hwy yn Twm Ddwl, a Dai Ddwl; y dylaf or ddau oedd Dai, a phan adroddid i Twm rywbeth ffol- acn na r cynredin iyddai Dai wedi ddweyd, ei atebiad cyffredin oedd, Rhaid i chwi gofio nad yw Dai 'mrawd ddim fel pawb o Lonom ni," ac ä r mesur y mesurai Twm Ddwl ei frawd ag ef, y mae y rhan liosocaf yn mesur pawb a ddelo o dan eu sylw. Os bydd rhywun wedi derbyn mwy na'r rhan a gyfrennir i'r mwyafrií o alluoedd medd- ylioi, yn fynych iawn, gan nad ydyw fel pawo, gosodir ef i lawr yn yr un dosbarth ar rhai fyddont wedi derbyn yn brin. Creaduriaid hurt, hanner pàn, y cyfrifid Dr. Chalmers, Dr. Duncan, a Christmas Evans y Cymry gan eu cydnabod am lawer o flynyddoedd, ac onid oedd aohosî Nid oeddynt fel pawb o honom ni." Y mae yn bosibl i iiaeleddau henaint hefyd, yng nghyda'i dull ansefydlog o fyw, beri iddi ddirywio yn ei blynyddoedd olaf, nes yr aeth yn y diwedd, yng ngeiriau yr erthygl, i bregethu yn erbyn y diafol a'r Sol-ffa. Ni wyddwn o'r blaen fod pregethu yn er- byn y diafol wedi cael ei osod yn fai yn ei herbyn; clywais y byddai yn tynnu ei llaw dros Ieuan Gwyllt yn groes ì'r graen ar amserau, ond gwyr rhai pa mor afrywiog, ie, a gwyllt y gallai y gwr da a rhag- orol hwnnw fyned weithiau, ac nid oedd Jane Hughes wrth ei drin felly, yn gwneyd dim mwy na thalu'r echwyn adre. Am y gwaeleddau hyn yn nhymor ei henaint, nid oes gennyf ond cymeryd tyst- iolaeth eraill; y mae fy ngwybodaeth ber- sonol i am dani yn darfod tuag adeg Di- wygiad Mawr 1858-59. Ym mlaen y Di- wygiad hwnnw, yr oeddwn yn bresennol mewn Cyfarfod Misol yn Ysbyty Yatwyth, a gynhelid ym mis Hydref, 1858. Yr oedd yr ychwanegiadau mawrion at yr eglwysi wedi dechreu yno, ac ym Mhontrhydy-