Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Bermo ar y pryd,-dim ond ychydig fwth- ynod ar y graig, — aneddau i nifer fechan o bysgodwyr helbulus, ond gweithgar ac an- turiaethus. Y mae adeiladwaith eglwys Llanaber a'i harddull yn meddu cryn debygolrwydd mewn llawer o bethau i Fynachlog y Faner, yr hon a saif yn nyffryn prydferth Llanell- tyd, Meirion, a dywedir fod y ddwy o ran neillduolion eu hadeiladwaith yn ym- debygu yn fawr i hen adeiladau eglwysig cyntefig yr Ynys Werdd. Yn ogymaint ag fod tebygrwydd felly rhyngddynt, bernir gan rai haneswyr lled ddiogel, a hynafieith- wyr credadwy a chraff, nad yw yn anheb- ygol eu bod wedi derbyn y neillduolion Gwyddelig hynny trwy ddylanwad Osburn Fitzerald, neu Osborn Wyddel fel y gelwid ef gan y Brythoniaid, yr hwn a ddaeth trosodd i Gymru ychydig amser cyn i'r ddau adeilad a nodwyd gael eu hadeiladu. Yr oedd hwn yn foneddwr urddasol ac uchel, ac yn flaguryn o'r gangen Ddesmon- aidd, o'r cyff Gwyddelig Geraldaidd. Oblegid cyflawni rhyw drosedd, ffodd o'r Iwerddon i Gymru, gan ddwyn gydag ef gant o wyr yn marchogaeth ar gant o ieirch gwynion heirdd. Derbyniwyd ei wasanaeth gan Llywelyn, tywysog Cymru. Sefydlodd yn Osber-lys, neu lys Osburn, ger Cors y Gedol, yn Ardudwy, ac wedi hynny priododd aeres Cors y Gedol, a daeth y lle trwy hynny yn feddiant iddo. Dis- gynyddion yr Osburn hwn yaoedd y Fych- aniaid clodfawr o Cors y Gedol a'r Hengwrt, ynghyda'r Wynniaid Cymroaidd o Ben- iarth. Credir iddo gymeryd dyddordeb neillduol yn y gwaith o gefnogi, cyfrannu tuagat, a chyfodi eglwysi yn ein gwlad. Gellir casglu oddiwrth amryw bethau sydd ynglyn a'r eglwys hon iddi gael ei chyfodi a'i hadgyweirio amryw o weithiau mewn gwahanol gyfnodau, ond pan ydoedd y diweddar Barch. J. Jones, M.A. (tad ficer gwladgar a Chymroaidd Llanidloes yn awr), yn rheithor y plwyf, trwy ei ymdrech- ion aiddgar a chanmoladwy ef, aeth dan adgyweiriad trwyadl, garí ar yr un pryd gadw ei hymddangosiad cyntefig hardd ac henafol heb ei lychwino. Cadwyd ei hym- ddangosiad allanol megis ag yr oedd ar y dechreu yn syml ac urddasol, ac oblegid ei harddwch a'i symlrwydd hwyrach y gellir ei hystyried yn gynllun teg o r hyn ddylai eglwysi Cymru fod. Yn wahanol i fwyaf- rif eglwysi Cymru, ni cheid ynddi ddwy aden groes, yn gwynebu y naill tua'r gogledd a'r llall tua'r deheu, eithr adeilad pedair-ongl ydyw, yn tueddu i fod braidd yn hir. Ceir fod y rhan orllewinol ohoni braidd yn lletach na'r ddwyreiniol, ond saif yr olaf ar uwch tir, gyda grisiau man- teisiol i esgyn o'r naill i'r llall. Oddimewn drachefn y mae ei harddull a'i ohynlluniad bron yn ymyl bod yn berffaith. Y mae ei rhan ganol yn wych a hardd, ei thramwy- feydd yn hylaw a manteisiol, tra y mae ei phulpud a'i changell yn sicr o dynnu sylw ac ennill edmygedd pob ymwelwr. Ei ífenestri, hwyrach, yw y pethau mwyaf dyddorol ac eithriadol a bertnyna iddi, rhai o honynt ar ffurf fflaim (lancet) sengl, na cheir eu cyffelyb yn nemawr o eglwysi Cymru. Y mae ei ffenestr ddwyreiniol yn neillduol o brydferth, gan fod ynglyn a hi neillduolion ac addurniadau na cheir ond anfynych eu tebyg, hyd yn nod mewn hen adeiladau eglwysig. Yr ocdd addurniadau y fnaim-ffenestr hon cyn yr adgyweiriad a wnaed ar yr eglwys gan y Parchedig J. Jones, M.A.,wediei gwyngalchu, ond tyn- nwyd y wisg honno oddiarni yn llwyr, yr hyn a'i dygodd i'w harddwch cyntefig. Dy- wedir fod unwaith fflaim-ffenestr hynod o ran arddull ar yr ochr ddeheuol i'r gangell, ond ni cheir honno yno yn awr. Ffenestr gylchog ydoedd, gyda cherfìadau cywrain ac heirddion o'i chwmpas. Ac ar y cylch uchaf ceid y geiriau a ganlyn yn Lladin— "Addola Dduw, eiddil ddyn." Ceir ffenestr dlos yn awr yn y fan lle y bu. I'r sylwgar y mae rhywbeth pur hynod yn y nenfwd harddwych. Mae y swmerau a'r cyplau glain o dderw du a ddaliant y nen- fwd yn foddion i ennyn chwilfrydedd yn y meddwl celfgar oblegid eu cywreinrwydd. Edryohant fel pe buasent wedi eu rhwyd- yllio â phelenau dur, ar gyfrif y lluaws tyllau mawrion fel morteisiau a gcir ynddynt. Ceir ar waith maen yr oll o'r ffenestri dystiolaeth ddiamheuol am allu a chywreinrwydd y crefftwyr a'u gwnaeth- Y mae ynddynt dyllau ysgwar wedi eu llenwi a'u gweithio â cherrig nadd mewn modd gorchestol. Y mae y porth ar yr ochr ddeheuol, oherwydd yr addurniadau cywrain a geir arno, yn deilwng o sylw manwl. Gwelir ei fod yn waith rhyfeddol o hardd a chelfydd- ydgar. Y mae yr hyn a awgrymir trwy yr addurniadau a'r cerfwaith gorchestol yn llefaru yn eglur fod y rhai a'i cynlluniodd