Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Dau Bregethwr Enwog. HB OLLODD pulpud Prydain ddau o'i gewri gyda'r flwyddyn hon. Nid Wesleyaid yn unig sy'n galaru am Hugh Price Hughes, ac nid Anibynwyr yn unig sy n galaru am Dr. Parker y mae cenedl gyfan, heb wahaniaeth, yn teimlo fod tywysogion yn Israel wedi cwympo, a fod dau lais hyawdl dros yr Iesu wedi tewi. Ni chlywais bregeth gan Hugh Price Hughes erioed heb ei llond o Grist; ac anaml y clywais ef na chai gyfle i esbonio, wrth esbonio rhyw adnod neu athraw- iaeth, mai Cymro oedd ef. Y mae adgof- ion hyfryd am dano yn Rhydychen a i hamgylchoedd, tra yr oedd yma y daeth y wlad i wybod am ei ddawn hyfryd, ei lithr- igrwydd ymadrodd digyffelyb, naturiol- deb mewn undeb a threiddgarwch meddwl, ei ddawn i drin dynion. Trwm i filoedd yw sylweddoli fod llais soniarus Dr. Parker wedi tewi am byth yn y City Temple, lle y troai llawer un o ganol prysurdeb mwyaf y byd, i wrando ar y weddi daer a'r bregeth hyawdl. Nid ang- DR. PARKER YX EI BULPUD. hofiaf ei bregeth glywais gyntaf; darlun- iai genedl Israel yn ei gwendidau a'i themtasiynau a'i phechodau, ac yna, ar ddiwedd pob adran, dywedodd ei destun mewn llais dwfn, wnai i'n calonnau grynnu, Ac angel yr Arglwydd a safai gerllaw. Yr oedd Hugh Price Hughes a Dr. Parker yn anhebyg iawn i'w gilydd, mor anhebyg bron a'r fellten a'r daran. Yr oedd y ddau yn gweithio yng nghanol pry- surdeb bydol, hunan-geisiol, balch, a di- drugaredd Llundain. Danghosai y ddau yr un peth, sef fod efengyl Crist eto'n meddu swyn fedr dynnu llif prysur dynol- iaeth ar ei hol. Clywais Hugh Price Hughes yn dweyd, gyda hyawdledd an- orchfygol, wrth dyrfa o efrydwyr difraw ac anghrediniol, fod miloedd o ddynion a merched heolydd y brifddinas yn dod i'w wrando ef, er cymaint oedd yr hudoliaeth i fynd i lwybrau pleser pechadurus, oher- wydd fod llais Iesu o Nazareth eto'n swyno y rhai sydd mewn angen cydymdeimlad un fedr esmwythau arnynt. Ac onid yr un genadwri ddygodd wyr galluocaf y byd i eistedd i wrando ar Joseph Parker?