Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

marus ddiddatglwm wrth eu gilydd. Pan fydd y cerbyd wedi ei fachu wrth yr ager- beiriant, mor esmwyth a difyr yw ei rawd, tra y ceidw ar y cledrau, ar y llwybr drefn- wyd iddo; ond gadawed y cerbyd y rails, gwrthoded gymeryd ei dywys, bydded iddo geisio myned i'w ffordd ei hun-llusgo, a chloncio, dyryswch ac anghysur, byth mwy; ie dragio poenus a chwerw wedi hynny, gan nad yw tresi Rhagluniaeth byth yn torri na byth yn dadfachu. Rhaid symud ymlaen ac os am fod yn ddedwydd yn ein gwaith, rhaid symud ymlaen yn unol a deddfau ein bodolaeth, a bod yn ufudd a hywaith dan ddisgybl- aeth yr awenau. Amlwg yw fod yr Hwn a gynlluniodd ac a greodd y corff, yn gwybod am ei holl anghenion; ac amlwg yw, hefyd, ei fod wedi trefnu a rhag-gynllunio pob peth angenrheidiol i gyfarfod a'r anghenion hynny, fel nad oes ar y corff eisiau dim nad yw natur yn ei gynhyrchu, neu yn barod i'w gynhyrchu mewn partneriaeth a'r dyn anghenog. Y mae y defnyddiau y saif mewn angen am danynt yn gorwedd 0 ddeutu-yn barod, neu yn hanner parod, yn aeddfed neu yn amrwd-at ei wasanaeth. Sylwer, modd bynnag, mai y defnydd cri yn unig­-y raw material—y mae Duw yn ei estyn a gynnyg i ddyn anaml iawn, os byth, y mae Duw a Natur yn estyn angenrheidiau pwysig bywyd iddo mewn cyflwr a ffurf hollol barod at dorri'r angen. Er esiampl, y mae Duw ei hun yn tyfu y gronynau yd, ond rhaid i'r dyn ei hau a fedi, ei falu, ei dylino, a'i grasu. Nid yw Duw byth yn gwneyd torth, ac nis gall dyn ei gwneyd-cynnyrch y bartner- iaeth urddasol, ddwyfol-ddynol, yw y dorth. Nid yw Duw byth yn gwneyd côt i neb, ond y mae yn garedig ddirwgnach yn tyfu digon o wlan, a llin, sidan a chotwm ar ei chyfer, cynnyrch partner- iaeth yw y gôt, fel y dorth. Nid yw Duw fyth yn adeiladu na thy na thwlc i neb; ond y mae wedi bod yn ddiwyd wrthi yn rhagddarpar cerrig a chalch, coed a haearn ar gyfer y gwaith. Y mae daioni, a charedigrwydd,* ac ewyllys da y Duw mawr wedi ei argraffu I'r dyn duwiol,­y glân ei ddwylaw, y pur ei galon-adnod felus, adnod sydd yn gosod hall- mark y nefoedd ar bob gweithred fechan ddistadl o'i eiddo. yw honno, Cydweithwyr a Duw ydym ni!" yn ddwfn hywel ar holl ddefnyddiau a chynhyrchion y ddaear fawr i gyd. Nid yw y byd yn ei grynswth ond un gloddfa enfawr, un gronfa ddihysbydd, o ddef- nyddiau at wasanaeth dyn. Nid oes llychyn. dafn, na deilen, ar ei holl ar- wyneb nad yw o ryw ddefnydd i rywbeth. "Baw!" ebai y goleuddysg Arglwydd Brougham, unwaith-" nid balc mohono; mater wedi ei gam-leoli ydyw. Ac nid daioni a charedigrwydd ac ewyllys da y Duw mawr yw yr unig bethau amlygir yn y greadigaeth o'n cwmpas; ond -ac at hyn yr oeddwn yn cyfeirio- — ei ddwyfol rasol ddoethineb hefyd sydd amlygedig ynddi; ac yn nodedig felly yn y ffaith a nodwyd eísoes; sef mai darn- baratoi peth ar gyfer angen dyn y mae; oherwydd mai yn y ffaith yna, sef yr hanner-baratoi ar beth, y mae Duw wedi rhagddarpar ar gyfer dyn. Duw yn creu yr haiarn, ninnau (os am arfau da) yn gwneyd rhaw, caib, arad, morthwyl, a llif ohono Duw yn tyfu'r dderwen, ninnau yn gwneyd cadair a bwrdd ohoni; Duw yn tyfu'r gwlan, ninnau yn ei nyddu a wau yn ddillad Duw yn tyfu afalau a grawn- win, ninnau yn plannu, yn cloddio, a bwrw tail,-rhyfedd fel y mae Duw yn torri gwaith i'w brentis; gyda'i haul cyn- nes, ei gawodydd maethlawn, ei flodau tlysion, a'i filmyrdd ffrwythau perflasus- y mae fel pe yn hudo dyn i weithio. Na, nid yw Duw yn tyfu torth. nac yn gwneyd pwys o ymenyn i neb; ei drefn Ef, fel y sylwyd eisoes, yw-" trwy chwys dy wyneb y bwytei fara," hynny ydyw, rhaid i'r dyn, os am eu cael, weithio am danynt. Wrth hynny, ai un cas, calon-galed, yw ein Tad Nefol ? Na, na anfeidrol ddoeth- ineb sydd wedi trefnu mai gweithiwr yw dyn i fod. Llais clir digamsyniol profiad dyn ymhob oes a gwlad yw hyn,­-mai tad annoeth yw hwnnw sydd yn codi ei blant i fyny mewn diogi a segurdod. Meddai rhywun rywdro-" Y mae'r dyn diog yn temtio y temtiwr ei hun." Neu, yng ngeiriau y bardd Seisnig,- For Satan finds some mischief still For idle hands to do." Y creadur mwyaf dirmygus ar wyneb daear Duw yw y dyn diog: tra mai'r dyn diwyd gweithgar, o'r ochr arall, yw y dyn iachaf, siriolaf, dedwyddaf, dan haul y nefoedd.