Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

AT OHEBWYR. Anfoner pob gohebiaeth o hyn i, rhifyn nesaf i Owen M. Edicards, Llanuwchìlyn, Bala. Anfoncr tonau i L. J. Roberts, H.M.I.S., Rhyl. Anfoncr pob archebion, taliadau, a hys- bysiadau, i'r Goruchwyliwr, Swyddfa'r CYMRU, Cucrnarfon. M.S.—Y mae "di ddig yn llawer hvn gair na diddig." E.-Yr oedd tad T. A. Edwards, prifathraw Bucknell Academy, Lewisbuig, Pa.. sef Thomas Edwards, yn frodor o Ddinbych, ac aeth i'r America gyda'i dad, sef David Edwards, tua 1825. Ganosid David Edwards yn Ninbych tua 1783; ei wraig oedd EIizabeth Williams. Bu farw yn 1866, yn Cattaraugus Co., New York. A oes rhai o'r teulu o amgylch Dinbych yn awr? Byddai adran Americanaidd y teulu'n falch o wybod. MAIR Y MTNYDD.—Bu'r tulip yn ddrud anghyffredin ddechreu'r ddeunawfed ganrif, pan y tybiai'r Is-ellmyn y gallent ei gael o bob lliw. Yr orchis yw hoff flodeuyn y cyfoethog yn awr. Yn rhestr Stanley, Ashton. & Co., Southgate, Llundain, y mae llaweroedd o'r blodau yn bum gini yr un ond y mae wrth gwrs,, rai llawer rhatach. H. J.—Ni raid i'ch enaid grebychu er eich bod yn byw mewn ystryd gul. Mae gennych ddychymyg, feallai, rydd fwy o feddiant i chwi ar y byd na pherchenogion ystadau eang. Anfon- odd y brenin Iago'r Cyntaf ei was unwaith a phum swllt i'r bardd Ben Johnson yn ei dlodi. "Does your master think," ebe'r hen fardd gonest, that I am poor because I live in an alley? Tell him his soul lives in an alley." Nid ple mae'r corff yn byw yw'r cwestiwn, ond ple mae'r enaid yn byw T. H.-Cefais lythyr caredig oddiwrth Mr. Eleazer Roberts, a ysgrifennodd. wedi gweled fy ateb i'ch gofyniad. Rhoddaf rannau ohono yma. "Caniatewch i mi ddweyd pe buasai gennyf ham- dden, na fuasai dim yn fwy dymunol gennyf na gwneyd a allwn i daenu hanes hen Seryddwr enwog Cymreig fel Arfonwyson. Un o'r llyfrau cyntaf wyf yn ei gofio-o lyfr Cymraeg-a dyn- odd fy sylw pan yn hogyn yn Liverpool oedd ei Drysorfa yr Athrawon.' Cododd fwy o awydd ynnof nag un llyfr arall i ymgydnabyddu mwy â'r iaith Gymraeg. Ond nid wyf yn gwybod dim mwy am Arfonwyson ei hun nag sydd yn y Gwyddoniadur. Cair yno fwy na phedair colofn o'i hanes, a sonia'r ysgrifennydd fod un o'i fyw- graffwyr' yn dweyd fel ar fel. Rhaid bod felly fwy nag un bywgrafnad ohono heblaw yr un yn y Gwyddoniadur." M. A.—Cyhoeddwyd Beibl Dwyieithog, Cym- raeg a Saesneg, gyda nodiadau gan y Parch. Joseph Harris yng Nghaerfyrddin, yn 1827. 0. J.-Byddai'n dda gennyf gael hanes brenhin-bren y Ganllwyd, a'r penillion iddo. Ni welais i ond uu pennill hyd yn hyn. Fel y dywedwch, eithaf peth fyddai cael hanes coed hynod. Y "Fairlop oak," ond odid, oedd un o brennau hynotaf Lloegr. Syrthiodd o flaen tymhestl yn Chwefrol, 1820. Cysgodai amgylchedd o dri chan llath. Deuai hen wr o dref gyfagos yno bob Gwener cyntaf yng Ngorffennaf i wledda ar ginio o ffa a chig moch. Bob yn dipyn gwahoddodd gyfeillion gydag ef. 0 dipyn i beth daeth pobl ereill yno hefyd; ac o'r diwedd cawd fod ffair wedi ei sefydlu o gwmpas yr hen wr, a'r dderwen. Y mae'r hen wr wedi marw, a'r goeden wedi diflannu, ond hysbysir fi fod y ffair eto yn ei bri. RHYDD.—Ydwyf, yr wyf yn rhoddi llawer o le i farddoniaeth. Wrth edrych drwy hen gylchgronau, megis y Gwyliedydd, y mae'r caneuon byrion y pethau goreu ynddo, megis llecynnau gwyrdd mewn diffaethwch. Does dim nior anfarwol a chan dlos. O.—Onid y gair Saesneg "goblin "yw "cob- lyn"? L. R.­Y mac symudiad wedi ei gychwyn i godi cofgolofn i Ieuan Glan Geirionnydd. Yr ysgrifonnydd yw H. P. Evans, Boston House, Trofriw. ERYR Y LLIWEDD.—Mae'n ddigon hawdd cael testyn i ramant gyffrous, a digon o dywallt gwaed ynddi." Darlleaiwch bapyr newydd; cewch rywbeth bob dydd. Bore heddyw gwelais hanes fel hyn o'r Iwerddon. Yr oedd gwr gweddw,a'i ben cyn wynned a phen llwdn, yn caru gen-eth ieuanc. Rhwystrwyd ef i'w phriodi gan ei fab, ar yr hwn yr oedd carwriaeth an- hymig ei dad wedi dal yn ddwys. Yn ei gasineb ar ei fab, saethodd yr hen wr ef yn farw â llaw- ddryll. Yna aeth ef a pherthynas iddo i lusgo'r corff i'r ty, gan feddwl rhoi ar ddeall mai saethu ei hun a wnaeth. Ond yr oedd braich y corff yn cael ei dal i fyny uwch y pen mewn agwedd fy- gythiol. fel pe'n herio llofrudd. Pan geisiwyd ei gwasgu i lawr at y corff, cododd o honi ei hun i'w hen agwedd fygythiol, fel pe buasai'n fyw. Dychrynodd y tad, syrthiodd mewn llewyg, a chyfaddefodd. Oni wna hon y tro i chwi gychwyn eich rhamant? Os gwna. cymerwch ddwy flynedd i weithio'r cynllun a'r manylion. Yna gyrrwch hi i ryw gyhoeddiad arall. AB SION.—Yn 1833 y daeth y Gwladgarwr allan gyntaf. Yr oedd yn ddarluniedig o'r dechreu, ac yn ystor o wybodaeth dd-efnyddiol a dyddorol i'n tadau. EwYLLYS RYDD.—Er fod Dr. Coke, y cenhadwr Wosleyaidd enwocaf, yn Gymro. nid oedd gan y Wesleyaid un bregethai yn yr iaith Gymraeg tan 1800. Dywed Arthur James Johnes mai y rheswm am eu llwyddiant cyflym oedd eu canu hyfryd. DARLLENWYR CYMRU.—Gorfod i mi adael amryw erthyglau a chaneuon, er wedi eu cysodi, at y rhifyn nesaf. Yn eu mysg y mae Undodwr Hynaf Cymru." Afom Menai," Gwaith Huw Morus," "Canu Omar." AB RHAGFYR.—Ni chyhoeddaf erthygl fo'n rhan o gyfres heb gael y gyfres i gyd yn fy llaw. I chwi ac i'm holl ddarllenwyr dymunaf yr hen ddy- muniad syml,- BLWYDDYN NEWYDD DDA."