Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

ı EG yw i mi, ar y dechreu fel hyn, gael caniatad i ofyn i'r sawl a ddarllenno yr hanes hwn beidio ffurfio ei farn am holl hanes Tomos Williams oddiwrth y rhannau cyntaf o hono. Fel y mae waethaf, rhaid yw addef iddo dreulio y rhan fwyaf o lawer o'i oes ym mhyllau dyfnaf ac erchyllaf llygredigaeth. Ni bu gan y diafol ffyddlonach gwas yn Nyffryn Conwy, am ddarn helaeth o gan- rif, na Tomos Williams. Ond pan oedd lliw ei wallt wedi newid, a'i gefn wedi crymu dan bwysau tua deg a thrigain o flwyddi, ei lygaid wedi pylu, a'i gam wedi byrhau, penderfynodd newid ei feistr; ac ni chafodd Ie i edifarhau o'r herwydd. Megis yn swn torri ei fedd yr anturiodd "Capelulo," druan, roddi ei ymddiswydd- iad yn llaw y gŵr y bu yn gadben mor alluog ac adnabyddus ar faesydd ei frwydrau am gynifer o flynyddoedd. Nid oes amheuaeth nad oedd y diafol a'i ang- ylion yn berffaith sicr yn eu meddyliau eu hunain y byddai Tomos Williams yn gwmpeini difyr iddynt; hynny yw, yn gwmpeini mor ddifyr ag y byddai yn bosibl i losgfeydd tragwyddol ei wneyd. Gallwn feddwl fod cryn siomedigaeth yn rhigolau noethion ac hyd riwiau drycinog uffern, pan ddeallwyd fod yr hen Domos wedi mynd i "stesion rhad ras," fel y dy- wedai, a chodi ticed "-y Meichiau wedi talu — am y Jerusalem nefol. Goddefer i mi ddweyd, hefyd, nad oedd ar gychwyniad ei yrfa, 0 leiaf, nemawr ddim ysmaldod goddefol, neu droion chwithig carictor gwreiddiol, yn perthyn iddo fel i Shon Catrin, Robyn Busnes, Bob Owen, Bilw Beech, &c. Yr oedd di- reidi Twm yn ddireidi pechadurus, ei ys- maldod yn ysmaiaod pergylus, a'i chwith- igrwydd yn un dieflig. Byddai pob gwr- hydri a gyflawnai yn wrhydri a ddygai gysylltiad â phechod ac os gwnai ddaioni ar ddamwain, byddai yn sicr o dalu iawn mawr i deyrnas y tywyllwch am hynny. Mor agos ag y gwn, ganwyd Tomos Williams yn Llanrwst, rywbryd rhwng y blynyddoedd 1778 a 1782, a bu fyw hyd tua'r flwyddyn 1860. Hannai ei deulu o le a elwir hyd y dydd heddyw Capelulo, yn agos i Ddwygyfylchi, ger Conwy, ac wrth yr enw hwnnw yr adwaenid ef ar hyd Capelulo. I. BORE OES. a lled y wlad. Pan oedd Tomos yn fach- gen, nid oedd gan y Methodistiaid yr un capel yn y dref, ond arferent ymgynnull mewn rhyw dy ym mhen y Groesffordd. Nid oedd gan yr un enwad Ymneillduol arall gapel yn y dref, ychwaith. Cafodd ryw esgus o ysgol ddyddiol, ond gadawodd hi cyn dysgu na darllen, na rhifo, nac ys- grifennu. Meddai ceffylau a mulod ar fwy o atyniad i Domos nag ysgolion ac addoldai. A'r pryd yr oedd efe yn fach- gen, ac yn wir ymron ar hyd ei oes, nid oedd son am drên i Lanrwst, felly yr oedd llawer iawn o geffylau a cherbydau yn myned yn ol a blaen drwy y dref bob dydd. Un o'r gorchwylion cyntaf a gyflawnwyd ganddo oedd dal pennau y ceffylau hyn, y rhai a safent o flaen y gwestai. Pan yn ddeuddeg oed, cafodd ei big i mewn i'r "Eagles" i lanhau esgidiau a rhedeg negesau. Yr oedd yn y gwesty delynor Q'r enw Wil Ellis, a phrif hyfrydwch Tomos oedd peri i'r hen frawd hwnnw golli ei dymer, a'i gân hefyd hwyrach, wrth ei boeni yn barhaus drwy ei ddynwared yn chwareu, a hynny gyda pheth mor ddi- urddas ac ansanctaidd â choes brws. Byddai Tomos yn myned drwy y gamp hon bob dydd am un haf i ddieithriaid a arhosent yn y gwesty; a chan ei fod yn ddigon medrus i daflu ysbrydoliaeth hyd yn oed i goes brws, derbyniai ei giniaw a diod ganddynt bob dydd am yr haf hwnnw. Nid oedd ryfedd yn y byd fod y canwr telyn yn anfoddlon i fod mewn part- neriaeth gyda choes brws-peth oedd yn dwyn cysylltiad mor agos a'r llawr. O dipyn i beth, daeth Tomos i fod yn ostler yn yr "Eagíes." Yr oedd, bellach, wrth ei fodd. Ystabl oedd ei balas, a'r ceffylau oedd ei gyd-chwareuwyr. Ni fynnai sylweddoli fod y gwahaniaeth lleiaf rhwng ei ymenydd ef ag ymenydd march. Onid oedd y ceffyl yn gallu cerdded, bwyta, yfed, a chysgu? A pha beth yn fwy, yn ei feddwl ei hun, a fedrai Tomos ei wneyd ? Medrai y llanc, druan, chwyrnu gyda chymaint o rymuster ar wellt y stabl ag a fedrai yr un cawr wedi gwin o yswain yn y deyrnas ar ei wely manblu. Ar ol bod yn yr "Eagles" am dymor lled dda, cafodd ddyrchafiad i yrru'r "Express" o Lanrwst i'r Cernioge Mawr, ger Cerrig y Drudion. Wedi hynny cyflawnai swydd