Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

GAN E. B. MORRIS (IEU AN GLAN TEIFI), LLANBEDR PoNT STEPHAN. Tynnwyd y darluniau gwawl gan D. Davies (Eurfab), Aberaman. I arall ar y deurodyn o'r tu ol, o'r dref yn groes i'r Teifi i sir Gaerfyrddin. Aem i fyny dros riw hir trwy bentrefi Cwmanne, Ram, a Threherbert; a'n cyrchfan am y dydd oedd Dolau Cothi, a gwlad Lewis Glyn Cothi. Yn wir, bore braf ydoedd hwn,-gwisgai natur ei gwasgod werdd or- curog, a brithid hi gan flodau mân o bob lliw, y rhai a ymddisgleirient fel perlau purlan dan gus yr huan; yr oeddynt fel yn llawenhau am gael mwynhau un dydd heb i'r cenllif gwlaw guro arnynt, ac ysigo eu coesau eiddil. Yr oedd y wybren asur yn llawn llonder-dan fantell las, gydag ambell i gwmwl gwyn fel ewynion y ton- nau ar y creigydd, yn ei hariannu, ac yn cyflawn ateb darluniad Alwenydd o hono,- Ac yn glws fel cnu gwlan. Neu wn angel yn hongian." DOLAU COTHI. Dolau Cothi. E digwyddaset sefyll, ddarllennydd mwyn, ar un o heolydd Llanbedr Pont Stephan, ar fore Llun swynol yn Awst di- weddaf, ti a welset dri gwr yn gyrru mewn cer- byd, gyda gwr llengarol Oherwydd gwlawogydd parhaus yr wyth- nosau cynt, yr oedd y ffermwyr bob llaw yn brysur gyda'r gweiriau-rhai yn lladd â'u peiriannau, ac eraill yn cywain i'r ydlan er ei roi mewn diddosdy gogyfer a blwng angen y gauaf. Pe buasai Eben Fardd yn cyfansoddi ei awdl i'r flwyddyn yn awr, digon tebyg y cyfnewidiai y rhan honno He y darlunia y pladurwr,— A'i fraich gref a digryn Dery arfod ar erfyn Egyr wanaf gywreiniol,- Rhed ei ddur ar hyd y ddôl A'i bladur gaboledig. Glaer wawr. yn goleuo'r wig." Anaml iawn yw rhif y pladurwyr ar ddol- au a llethrau amser y cynhauaf-swn y peiriannau glywir heddyw yn diaspedain dros fynydd a dyffryn. Golwg gain gawsom ar yr hen fryniau v bore hwn, a'u Gwregysau-grug oesoedd," yn eu britho i gyd, ac yn plygu eu pennau yn isel mewn ymostyngiad i suad ysgafn yr awelon ar y deilos, ac fel pe baent yn sibrwd "Bore da" i ni wrth basio.