Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

lle yn ego, a nhluste inna'n llawn crotch- ets a cwafers, dyna beth ffact yw a; a'r train yn fwy tebyg i gonsart na dim byd arall. Wel, fe gyrhaeddasom Aberddô, ond os do bu Mèr Jên bron a châl ffit 'dodd 'no fawr o dai. Tai to gwellt yr hen ffashwn, mor hened a'r diluw o'dd 'na, rhan fwya. Ond whare teg, yr oe'n nhw i gyd yn lân fudr. Mlean a ni, a thros bont y reilwe, i lawr sha'r treath. Rhyw dreath rhyfadd o'dd a. 'Roedd mwy nag un hanner o hono yn ddaear ne sand ne rwbath, ac yn llawn tylle, a phylle ishta ffôts yma thraw; a'r rhan arall yn llawn popls ma'r môr yn dowlu lan o ffordd y stimars. Wel ethon ni heibio'r odyn galch lle ma nhw'n gneud calch Aberddô, ìle gna'th Syr Bêchi'n alw'i ffortshwn. 'Rodd 'na drycs, bachan, yn cario'r popls lan i'r odyn, ac wedi arllws trycad o bopls i'r odyn wetny rhoi tryced o slac o'r Cymmer, ia, ar i gefan a; ac wedi i'r slac losgi, fe ddele'r popls meas yn galch gwyn. Dyna waith dea, yn te fa, bachan ? 'Rodd 'na filo'dd o atar 'co, yn wyl- anod, atar duon, fronfreithod, uchedydd- ion; screchan i gyd gyda'u gilydd oedd y wylanod fel ta nhw isha bwyd, ac ambell un yn fwy screchllyd na'r rhai erith, ishta rhywun yn canu solo pan ma'r chorus ar waith. Ond 'rodd yr hedydd yn canu'n swît, a fe wêtes i'n ddifeddwl wrth Mèr Jên,- "Dyna gantraig fach i ti; dyna R.A.M. myn asen i. Beth tae honna'n treio'r Soprano Solo yn y Nashona1, fe gure bob copa, dyna beth ffact yw a." Leicws ddim Mèr Jên beth wêtws i, ac fe allswn i weld i bod hi'n reit jelos o'r hedydd beâch. Ond mleân a ni, a 'rodd 'na filiwne o flote beâch-" pines y môr -oen nhw, ebe Mèr Jên. Gitshes mewn un, a dyna bert odd a, ia. "Dishgwl ar hwn, Mèr Jên," ebe fi. "Dishgwl ar 'i flows a, ag ar 'i hèt a; faint o flota sy ar dy hèt di ? Pump ? Mae ar hwn saith. Dishgwl 'ma." "Cer oddna," ebe Mèr Jên, "'rhen un dwl ishta'g wyt ti." A chwarddes inna nes own i'n ddou ddwpwl a phlat; a fe bwtws Mèr Jên am dicyn. Mlân a ni, a cherdded ar y popls ishta cerdded ar wya. Wedi ca'l spel i ddish- gwl ar y tonne, ac ar y llonge, fe gwnnws arno i whant i faddo'n nhreâd off a'r sgitsha a'r sane, a miwn i'r dwr. Dyna hen dwbyn mawr yw'r môr, ia! a dyna ddicon o ddwr gese ni sha fe, byse fe'n dod i'r Porth bob nos erbyn bo ni 'n dod o'r gwaith. Ond ma nhw'n gwêd i fod ynte'n gweithio dwbl shift, ac os yw hynny'n wir, fe allse olchi gweithwyr nos hed. Ond pan own i'n padlo nol a mlên, fe gwatodd Mèr Jên y scitsha a'r sane o dan y popls; mewn difyrrwch, wrth gwrs. A phan o'dd hi'n gneud hynny, fe welwn ryw flôc draw yn y pellder, ac fe waeddes i. "Dai, hoi." "Bili, hoi," ebe ynta. A phwy odd a ond y bachan o'dd ar blatform y Bont, ac fe ddouth mlêan i wylia sha Mèr Jên a finne yn eitha nêt hed. Feddyles i ddim drwg 'nawr, wa'th odd y ring ar fys priodas Mèr Jên. Mhen spel, fe wêtodd Mèr Jên, Dai "Wel," ebe fi. Tra bo chi'n minjoyo, fe af fi i gasglu blota; fydd hyn yn jobyn dea ar gyfer y te parti'r wsnoth nesa; bydd mam yn leico cal pincs-y-môr ar y ford." "Reit ho," ebe fi, "arhosa i fan hyn," wath 'down i ddim yn leico'r jobyn o glascu blota, dyna beth ffact yw a. "Ca i ddod gyda chi?" ebe'r blôc. Stim ots da fi," ebe hitha. A off yr etho nhw a finna'n baddo nhread. Ma' tuedd gnêcon yn y nhread, ac rôdd nheâd yn arfadd gwêd fod dŵr y môr yn dda i'r gnêcon. Arhoses 'no 0 bouthtu awr, a dim son am Mèr Jên. Etho i ddishgwl am y sane, a'm sgitsha, ond rôdd rheiny wedi mynd hed. A buo whant arna i fynd gyda nhw. Wath o'dd y môr wedi gwithio miwn dros y man ìle rôdd Mèr Jên wedi gatal nhw. Dyma hobl, ia! Fe weiddes nerth 'y ngeg ar Mèr Jên, ond atebws neb, ond carreg abed fe reges, a rhegodd y garreg ar y'n ol i. Fe bwtes: gorweddes lawr ar y popls a mor wir a bo ti yn y fen 'na, fe gysges. Fe freuddwydes mod i'n gwitho yn hen waith y Cymmar wrthw i'n hunan, ac fe weles ganwyll gorff, ac fe'i gwelwn hi'n mynd yn fwy, fwy o hyd ac fel 'rodd hi'n mynd yn fwy, ele ar sheâp ysbryd 'rôdd yn tyfu o hyd i hyd; a finnau'n crynnu fel dalen. O'r diwedd fe lanwodd yr ys- bryd y pwll, a chyda hynny cym'rws tanad budur Ie. Fe a'th y pwll yn shibbydêrs, a nhowlws inna o'r hedin yng ngwaelod y pwll fyny i dop y tip. Ac fe ddihunes i