Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

fîeindio'r môr yn golchi rownd o bouthtu fi a dou ddyn yn shwfflan ac yn gwaeddu arna'i symud oddna am y mywyd. "Blae mâ'n sane i?" ebe fi. "Sane, diand i," ebe un o'r dynnon, "yng ngwaelod yr Atlantic." Rhoisan fi yn un o'r trycs, tynnwsce'lbachnifyny, a ches i fynd i sychu nillad yn yr odyn galch. Pan own i yn yr odyn, fe basws y train sha Barry, a meddyles i mod i'n gweld y blôc yn dishgwyl meas drw'r ffenest dan wherthin, a Mèr Jên yn dish- gwyl dros 'i sgwydda fe. Wêtodd dyn- non y calch fod. peâr ifanc weti passo a mynd sha'r steshon. A dyna oen nhw, stim doubt! Scamp, wêtest ti? Ia, gwas yr An- ras, hèd. Fe drawn y nwrn drwy ened e'r funud 'ma tyswn i'n câl shawns. Shwt 'nes i wetny? Wel, feddyles am fynd i ofyn i'r 'ffeirad am fenthyg pâr o sana a sgitsha. Pendrafynes wêd wrtho mod i'n napod 'ffeirad y Porth, a mod i'n Eglwys- wr ffyddlon; er fel y gwyddost ti, Öhoni, 'dwy i fawr o gwrddwr nac o 'scrythyrgi. Ond i neud y stori'n fyr, 'dodd y 'ffeirad ddim gatre, a safiodd hynny fi rhag gwêd celwdd. Wel, fe etho'i wêd y nghwyn wrth hen wraig fach, ac fe rows honno i fi hen beâr o sana, a hen beâr o sgitshia ar iol i gwr. Hen fenyw feach jenwin odd hi. Fe'i priodwn hi 'nawr o flêan Mèr Jên. 'Rôdd yr hen fflyrten wedi mynd a nhicad i sha Barry, a dodd dim a foddlone fi ond mynd ar 'i hol hi, nit gy- mint er mwyn y ticad, er nad odd gen i ddim llawer rhacor na hanner coron yn y mhoc i, ond i gâl gweld os odd Mèr Jên wedi gneud twyll sha fi. Fel odd hi'n dicwdd, rôdd un o dyn- non y lle yn mynd o fewn i filldir i Barry, a chynhycws lifft i fi. Ond rôdd gydag e geffyl tene budur allset weld gole ddydd drwyddo; o'dd a ishta scelet; ac o'dd pob ci yn cyfarth arno 'dwy i ddim yn gwpod pam, os nag oen nhw'n meddwl mai asgwrn odd a. Ond ta beth, fe'i hatshwd e wrth hen gart, a off a ni am obouthtu milltir a hanner o Aberddô. Ond yn ddi- swmwth, stopws y scelet, ac fa ballws fwjid un peg. Dim peg. Cas 'i wado, a'i broco, a'i gocso; ond no go 'rodd e wedi pendrafynu peidio mynd sha Barry yn geffyl byw. Chlwes i ddim un halier yn y Cymmar yn rhegu hanner cynddrwg a'r dreifer hwnnw. 'Rôdd e'n wa'th na thrwper un pen o'r dydd. Fe a'th yn tyg rhyngo fe a'r ceffyl; U yn tynnu acha'r rains un ochr, a'r scelet 'rochor arall, ac mor stiff odd y ddou fel y torrws y rains. 'Rôdd scelet wetny yn rhydd un ochor, ac fe drows com here rownd, a rhows naid y gWr drwg mleân, nes a'th yr hen straps yn yfflon. Gweiddws y dreifer Wo nerth 'i geg, ond towlws scelet 'i drêad ol fyny i'r awyr, gystled a gwêd beth wêtodd y morfil wrth Jonah, a otf ag e fel y mail. Pendrafynes i gerdded 'nawr mlêan, ond weti mynd cwpl 0 latheidi beth weles i rhwng y ffordd a'r railwê ond hèt Mèr Jên. 'Rown i'n i napod hi'n rhy dda i nuthur camsynad. Dyna lle'r o'dd hi a'r pum rhosyn, ia, yn gorwedd ynghanol y glaswellt a'r llycced y dydd. Fe ddouth popath i meddwl i do. Meddyles fod yr hen flôc wedi shoto Mèr Jên mêas o'r train; ac y bydde cwest ar 'i chorff. Etho miwn dros y ffens i'r lein am dani, a 'rown i'n llefan fel y glaw. Fuo dim mwy o ddwr yn y'n llycid i erioed. Fe gwrddes ag un o wyr y lein, a dyna ddyn o consicwens odd a, ia, fe ofynnws fel hen Ser,- "What'r you a-doin' here, mate?" "Lookin for Mèr Jên's body," eba fì. I've found her hèt." "Do you think she has a-lost 'er body as well as 'er 'at," ebe fe. I'd n' know, myn asen i," eba fi. Ond dyco Mèr Jên yn dod ar yr hewl, a'i gwallt yn fflwch, a golwg sad arni. "O nghariad i, lle'r wyt ti wedi bod?" eba fi. "'Rhen wynt," ebe hitha, "gynnws y'n hèt i bant." "O'r train, spo," ebe fi. "O'r train, wir," ebe hithe; "cer odd'na 'run dwl ishtag wyt ti." A walle, eba fi yn 'y meddwl, nad a'th hi ddim gyda'r train, sha'r blôc, ond 'rown i'n ffaelu dyall fod y gwynt wedi cwnnu hèt hi off, weath odd 'na ddim awelyn i geal. Beth netho ni wetny? Wel, etho'n 'nol bob cam i dy'j wraig feach; ac yr hewl fe wêtes i'm hanas bob yfflyn wrth Mèr Jên. Fe geson dê, a ffrois gyda'r hen wraig fach am ddouswllt, ond 'dodd hi ddim yn serchog iawn i Mèr Jên; 'dwy ddim yn gwpod pam, os neage achos fod merch gyda hi. A ferch smart fudur odd hi, bachan, o'r ddwy, o'n i'n cetu mai hi odd leana. Ond o'r diwedd ethon sha thre. Yn steshon Aberddô fe dda'th bachan mlêan i wêd mai gwr gwraig o'dd y blôc âth off