Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

a Mèr Jên. Ond os do, feddyles fod Mèr Jên yn cael ffit farw. Wêtws y bachan fod y ddou wedi ceal ticedi i fyny i Barry, mai un o'r one-a-Wantin's o'dd y blôc, a'i fod yn byw yn y Bont. "So long, 'nawr," ebe fi wrth Mèr Jên; "dim hacor o dwyll, myn asen i;" wath own i weti cael dicon o foddar drw'r dydd, dyna beth ffact yw a. "Oti'r train ma'n mynd i'r Porth?" ebe fi wrth un o ddynnon y steshon pan dda'th y train miwn. "'Ty, 'ty," ebe fe. "Take your seats." I. DAU ENW. RIOED ni chlywais i air mor fwyn i&J A'r gair hoffus Cartref, mor siriol ei swyn; Ac ym mhlith holl eiriau lleferydd dyn Mae hwn am ei swynion fel wrtho ei hun; Gwyn fyd a hiraetho am dano yn gry, Fe'i ca yn y Cartref dymunol sy fry. Erioed ni chlywais un gair mor ddi-nam Ym mhlith yr holl enwau a'r enw mwyn Mam; Ac ym mhlith holl deitlau y ddaear fawr las Mae'r gair Mam yn curo'r holl enwau i ma's; Gwyn fyd y rhai fyddont i'w mamau yn bur; Y nefoedd a'u gwared rhag amal i gur. Ymguddia fy Nghartref mewn dyffryn hardd pell, A huna fy Mam yn ei ddistaw gell; Ar allor fy nghalon mae megis byw fflam, Sef serch at fy Nghartref ac at fy Mam; Ac wrth eu heirdd gofio mwyn addewid sydd Caf weled y naill gyda'r llall ryw ddydd. II. CHWI GLYWSOCH. Chwi glywsoch am dlysni amrywiol Wrthddrychau holl natur mor hardd; Chwi glywsoch am lendid rhianod A luniwyd rhwng odlau y bardd; Utica, N.Y. Ac fe drafeilws Mèr Jên yn un pen o'r train, a finne'n y pen arath. Fe gwples i'r sigrets erbyn cyrraedd y Bont; a fe gwples am byth a Mèr Jên hèd. Halws 'nol y ring i fi mhen wsnoth wetny, a fe dreiso i gwerthu hi i'r jiwler, ond roise fa ddim tair cinog am dani; er fod yr hen fachan gwerthws hi yn gwêd fod ynddi thirty carats. Ond dyna be sy'n capso'r cwpwl; ma' Mèr Jên yn wylia sha Dick y Cardi; a ma sopyn o whant arna inna i fynd i Aberddô i garu merch y wraig fach rows y sana a'r sgitsha i fi. DEFYNOG. Caneuon. Ond eto mwy harddwch sy'n nghadw Na thlysni'r un harddwch a roed, Oblegid yr harddwch mwyn harddaf Yw'r harddwch nas gwelwyd erioed. Chwi glywsoch am ddedwydd ddedwyddwch Hyd oesau a roddwyd i ddyn; Am wynfyd y fun gyda'i chariad, Am wynfyd y câr gyda'i fun; Ond gwyw iawn pob gwynfyd teimladwy A phcb gradd dedwyddwch a roed: Y gwynfyd sydd fwyaf gwynfydol Yw'r gwynfyd nas teimlwyd erioed. Chwi glywsoch am swynion cerddoriaeth Cantorion uchelryw eu dawn; Cerddgorau yn canu am gampau Nes llenwi ysbrydoedd yn llawn; Ond eto mae cerdd sy'n rhagori Ar seiniau'r un offer a roed, Oblegid y gerdd beiorolaf Yw'r ber gerdd nas clywyd erioed. Chwi glywsoch ddarluniad gwladgarwch O fwynder ardaloedd ar fyd; 0 Eden, o Gymru, o'r Werddon A'r swynol werddonau yng nghyd; Ond eto mae gwlad gura'r cyfan O'r tiroedd a sangwyd gan droed, Oblegid y wlad Edeneiddiaf Yw'r Eden nas gwelwyd erioed. INDEX.