Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

AT 0HEBWYR. Anfoner pob gohebiaeth o hyn i'r rhifyn nesaf i Owen M. Ed- wards, Llanuwclülyn, y Bala. An- foner tonau i L. J. Roberts, H.M.I.S., Éhyl. Anfoner pob archebion, taliad- au, a hysbysiadau, i'r Goruchwyliwr, Swyddfa'r CYMRU, Caernarfon. CYFEILLION GLASYNYS. Derbyniais hyd heddyw (Gorffennaf 16), o'r newydd at gof- golofn Glasynys, 11s. 6c., casgliad yn eglwys blwyfol Gellygaer, Morgannwg. B.A.-vVrth amcangyfrif golud, dylech ys- tyried, nid yn unig presenoideb cyfoeth, ond absenoldeb moethau. Y mae gwlad 11э y dysgir plant i ysmygu ac yfed yn dlotach na gwlad lym- ach lle y dysgir hwy i gynhilo. Ymdlodi yw creu awydd am foethau. COCH Y BRYN.-Y mae precedent yn beth pwysig iawn mewn cyfraith. Ond dibynna ei werth i raddau ar gymeriad y barnwr, ac y mae ambell i precedent nad yw'n hollol sicr y dilynir ef. Digon prin, hwyrach, yr estynnir hyd yr un Senedd eto heb ymgynghori â'r ethol- aeth. er fod hynny wedi ei wneyd yn 1715. SYNWYR CYFFREDIN.—Oes, y mae llawer o Gymry yn ysgrifennu yn Gymraeg tra y mae cylch eanga'»:h a mwy o: elw iddynt mewn llenydd- iaeth Saesneg. Ond y mae gwahaniaeth rhwng y ddwy lenyddiaeth. Y mae llenyddiaeth Gym- reig yn fwy naturiol. Yn Saesneg yr ydych yn YÐgrifennu i gael eich beirniadu, yng Nghymru yr ydych yn ysgrifennu i gael eich darllen. O'm rhan fy hun, gwell gennyf awen Cymru yn ei thlodi nag awen Llcegr yn ei chyfoeth. Mae'r awyr yn burach a mwy adfywiol. Ab RHYDD.—Nid lle cyhoeddir goddefiad cref- yddol uchaf y ceir ef mewn gwirionedd. Nid oes un wlad ag egwyddor goddefiad mor amlwg ar ei deddflyfrau na Ffrainc, na gwlad a chymaint o erledigaeth yn ei chalon. Nis gellwch gymeryd yn faniatacl fod gwlad yn oddefol am ei bod yn Ymneillduol. Y mae ambell enwad a rhyddid crefyddol yn amlwg ar ei faner ac yn uchel ar ei dafod; end, lIe bydd cyfleustra, erlidir yn ysbryd y Chwilys Yspaenaidd. Y mae'n rhaid cael y boneddigeiddrwydd sy'n seiliedig ar wir grefydd cyn cael goddefiad crefyddol perffaith I. D.-Cyhoeddwyd Cywydd y Farn Wil- liam Wynn o Langynhafal yng nghyfrol Hugh Jones o Langwm, Dewisol Ganiadau yr Oes Hon,1759, 1806, 1827. Y mae gwaith W. Wynn ar barotoad i Gyfres y Fil. A. S.-Y mae'r efengyl yn tei'yngu'r Cymraeg' ceinaf, goreu, tebycaf o argyhoeddi pechaduriaid ac o ddiddanu saint. Dyna'r pam y dylai pregeth- wyr efrydu Cymraeg. P. A. Arfon.— Diolch am y gyfres o fywgraffiadau dienw. Nid oeddwn wedi gweled yr un ohonynt o'r blaen. Mae dau beth yn amlwg, sef (1) eu bod oll wedi eu hysgrifennu gan ddau neu dri awdwr, (2) na chaiff :neb chware teg ynddynt os na fydd wedi digwydd cael ei eni yn perthyn i ryw un sect neillduol. Yr achlod iddynt Y mae sectyddiaeth yn beth digon hagr ei hun; y mae'n gan hagrach pan rith wisgir hi ym mantell hanesiaeth. J. R.-Ystyr y gair eger yw â'i holl nerth." Y gair Saesneg eager yw. Yn y bymthegfed ganrif yr un ystyr oedd i'r gair Saesneg ag sydd i'r gair Cymraeg yn awr. Ebe Fabyan, wrth ddarlunio gwarchae Berwick,— The Scottes defended it egerly, and bete the Englysshemen backe." L. o LANBRYNØAIR. Clywais gwestiynau r pedwar am lyfr newydd; y Sais,— Pwy yw'r awdwr;" yr Albanwr, Pwy yw'r cyhoeddwr;" y Gwyddel, Faint o ddarluniau sydd ynddo;" y Cymro,— Faint yw ei bris ?" Eithaf nodweddiadol. Awydd y Sais oedd am ei feirniadu, y Scotsman am wybod pwy wnaeth arian o hono; y Gwyddel am ei fwynhau, a'r Cymro am ei brynu a thalu am dano. BANON.—Nid ydych yn cymeryd y dywediad fod "emynnau Ann Griffiths yn baganaidd yn yr ystyr roddir i'r gair olaf yn erthygl Mr. W. J. Gruffydd. Yr ydych yn creu bai, ac yna yn ei feio. Y. YR OES.—1. Dylid cyhoeddi pob rhybudd cyhoeddus yn Gymraeg. Y mae y Midwhes Act a'r Epizootic Lymphangitis Order yn hollol ddifudd ar barwydydd llaweroedd o'n hardaloedd yn awr. Gwelaf i Gyngor Sir Arfon benderfynu cyhoeddi eu holl benderfyniadau yn Gymraeg. 2. Y mae hawl i siarad yn Gymraeg a Saesneg ymhob Cyngor Sir. Y mae'n ddiameu gennyf y gofelir fod y cadeirydd, a chadeirydd pob pwyll- gor, yn hyddysg yn y ddwy iaith. CYSON.—1. Yr wyf yn erbyn addysg grefydd- ol orfodol, bydded y catecism yn gatecism Eg- lwys neu yn gatecism Cyngor Sir. Y mae'n wir fod y Cyngor Sir yn cynrychioli'r bobl, ond y mae lleiafrif na chynrychiola, a'r lleiafrif a or- thrymir. 2. Rhy fach o ddysgu, gormod o'r hanner o arholi, gormod ddengwaith o arolygu sydd yn ein cyfundrefn. Dylem wario'r arian yn bennaf ar athrawon. Gall unrhyw un wneyd arholwr; neu arolygwr; ond am yr athraw, y mae ei ddawn ef yn ddawn naturiol, ac yn ddawn brin. MONwysoN.-Gochelwch y gair anfarwol." Yr ydych, trwy ei ddefnyddio mor aml, yn dy- fetha ei werth. Y mae anfarwoldeb ym myd llenyddiaeth yn beth anos ei gael nag a feddyl- iech. Nis gellwch gymeryd yn ganiataol fod yr un englyn wedi gwneyd neb yn anfarwol eto. BLAENOR.—1. Tri pherygl y Methodistiaid yw, nid y rhai a ennwch, ond y tri hyn,-snob- yddiaeth, Sais-addoliaeth, ac offeiriadolaeth. Peryglon llwyddiant ydynt. Gadewch i ni obeithio fod digon o gariad at ryddid yn y Corff i ladd y cyntaf, digon o wladgarwch i ladd yr ail, a digon o ras Duw i ladd y trydydd. 2. Cyhoeddwyd "The Rules and the Design" yng Nghaer yn 1802.