Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

CYMRU CYF. XXVII. MEDI 15FED, 1904. RHIF 158. 5t5\AETH Medi urddasol o'r diwedd, iy/ Fel brenin o briflys y gwawl; Mae'i asur fel dyfnliw'r Tangnefedd, A'i fryniau'n soniarus eu mawl 0, fwyned chwa falmaidd ei ymdaith, Felused ei fore a'i hwyr, A'i gnydau aneirif mor berffaith,- Pob calon a gredodd a'i gwyr. Daeth Medi urddasol o'r diwedd, A threngodd amheuon di-rif; Mae diluw o wenau'i drugaredd Lle gwelwyd pryderon yn llif; Esbonnir gerwinder y gaeaf, Ca'r cwmwl a'r heulwen fawrhad; O'r cwysau wylasant. helaethaf Daw'r cnydau addfetaf drwy'r wlad. Safle Ariannol ein Prif Eisteddfodau. RTH gyflwyno y daflen hon* o safle ariannol ein prif Eistedd- fodau i sylw, feallai mai doeth fyddai egluro ddarfod i mi o'r blaen, rai blynyddau yn ol, gy- hoeddi taflen fechan o'r un natur. Ac yn awr mae'n bleser gennyf gyflwyno un fwy cyflawn, yr hon sydd yn ein dwyn i lawr at yr Eisteddfod Genedlaethol ddiweddaf, sef un Llanelli yn 1903. Mae'n ymddangos fod nifer helaeth o'r Eisteddfodau heb gyhoeddi taflen arian- nol o gwbl, ac mae lIe i ofni fod amryw o honynt wedi troi'n fethiant, ac mai dyma y rheswm am na chyhoeddwyd eu hanes. Fe wyr y cyfarwydd mai ychydig o Eisteddfodau o bwys a gynhaliwyd cyd- rhwng Beaumaris yn 1832 ac Aberffraw yn 1849, ac hefyd cydrhwng Aberffraw a Llangollen 1858, Aberdâr 1859, a Dinbych Gwel tudalen 103. Medi. Daeth Medi urddasol o'r diwedd, Ac amled yw'r bronnau sy'n son; Mae'i gysgod fel hafddydd digonedd Yn ddwyfol o Fynwy i Fon Mae'i fendith yn ddyfnach na'r weddi, Yn lletach na llafur y byd,- Fe gofiodd lus unig Tre'r Ceiri, A changau'r mieri i gyd. Daeth Medi urddasol o'r diwedd, A chana'r medelwyr yn fwyn; Drwy'r hirddydd fel adswn gorfoledd Swn dyrnu sy' nghadlais y Llwyn; Oes rhywun yng ngolud ei roddion Heb gofio am gariad yr IoR, A'r Lleuad yn gwenu mor dirion Ar chwerthin minfelus y môr ? J. R. Tryfanwy. 1860. Wrth hyn ymddengys fod y teimlad Eisteddfodol yn lled isel y blynyddau hyn. Ar ol hyn cawn fod amryw o Eis- teddfodau pwysig wedi eu cynnal, sef Caer- lleon, 1866 Caerfyrddin, 1867 Rhuthyn, 1868; Wyddgrug, 1873; Bangor, 1874; Pwllheli, 1875; Llundain, 1887; ac mae lIe i gredu na chyhoeddwyd yr un daflen gan y pwyllgorau hyn. Eithriad yw Eis- teddfod Bangor, 1874 ond ni lwyddais i ddod o hyd i daflen Bangor, er holi, chwil- io, a chwilota yn ddyfal am flynyddau lawer. Feallai fod rhyw reswm dros gadw hon ynghudd o gyrraedd y cyhoedd. Fe welir oddiwrth y daflen sy'n dilyn fod y mwyafrif o'r pwyllgorau wedi cyhoeddi eu taflenni yn rheolaidd a'r oll namyn pump wedi dangos gweddill ariannol sylweddol. Buaswn yn caru rhoddi mwy o'r man- ylion mewn colofn arall, ond ni rydd y taf- leni y manylion anghenrheidiol ond mewn rhai amgylchiadau,-sef y symiau a dal-