Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

APOSTOL YR HWSMONAETH NEWYDD. 'R rhai a wnaethant wasanaeth i ryw ddosbarth n e u gilydd o drigolion Prydain, mae nifer o rai sydd yn teilyngu lIe mwy na'r cyffredin yn hanes eu gwlad, ac yn haeddu parch mewn ystyr arben- nig ar law eu hol- afiaid. Mewn mas- nach, mewn g w 1 e idyddiaeth, mewn gwyddon- laeth, ac mewn celf, mae rhyw enwau neill- tuol ag y cysylltir dechreuad rhyw gyn- llun, neu gychwyniad rhyw symudiad, a hwynt; ac nid ydym yn teimlo fod gennym hawl i ystyried ein gwybodaeth am un- rhyw symudiad yr hyn ddylai fod, os na fyddwn yn hyddysg ym mhrif ddigwydd- iadau bywyd y rhai a'u cychwynasant. Nid oes fynnom ni ar hyn o bryd ond yn unig ag un gelfyddyd, yn yr hon yn ddiameu y mae nifer helaeth o ddarllenwyr Cymreig yn teimlo dyddordeb, sef amaethyddiaeth. Gall rhywrai ameu, hwyrach, fod yn bosibl cael yr un enw ynglyn ag amaethyddiaeth, yn enwedig yn y gorffennol, ag y byddai yn werth ei gofnodi a'i osod ochr yn ochr ag enwau gwyr mawr y wlad. Ond mae hynny yn dibynnu yn hollol ar beth sydd yn gwneyd dyn yn fawr, ac mae'n ofnus nas gellid penderfynu'r cwestiwn yma i foddlonrwydd pe ceisid. Y mae, fodd byn- nag, nifer o ddynion ynglyn ag amaeth- yddiaeth sydd yn deilwng o rywbeth mwy nag enwogrwydd lleol, rhai oedd yn ddyn- ion eithriadol yn eu cenhedlaeth, ac a os- odasant eu holynwyr dan ddyled nid bychan iddynt. Y mae tri o honynt yn teilyngu sylw neillduol,— Jethro Tull, Robert Bakewell, ac Arthur Young. Dy- lai pob un sydd yn cymeryd dyddordeb mewn amaethyddiaeth fod yn gwybod rhywfaint am y tri yma; ac yn wir, mae hanes eu bywyd o ddyddordeb cyffredinol, pe byddai i ddim ond dangos fod lIe i athrylith ynglyn a phethau gwledig, ac i roddi rhyw syniad am ddatblygiad am- aethyddiaeth fel galwedigaeth wyddonol. fethro Tnll. I'r darllennydd cyffredinol mae'n ddiameu mai'r mwyaf adnabyddus yw Arthur Young, yr hwn sydd mor enwog am ei Deithiau bron ag am ei wasanaeth un- iongyrchol i amaethyddiaeth. Ond y cyn- taf, ac mewn llawer ystyr, y mwyaf o'r tri, oedd Jethro Tull. Y mae ei enw yn lled anhysbys i'r mwyafrif o amaethwyr Cymru, fel yn wir y mae i amaethwyr Lloegr hefyd, ac hwyrach mai nid amhri- odol yn y cyfwng presennol fyddai rhoddi braslinelliad o'i hanes, er dangos yr hyn a wnaeth i deilyngu coffhad. Ar hyn o bryd, pan mae amaethyddiaeth wyddonol yn cael mwy o'r gefnogaeth a deilynga nag a gafodd erioed o'r blaen, buddiol yw dwyn ar gof y rhai a roddasant gychwyn- iad i'r symudiad, ac nid oes neb yn fwy teilwng o ddiolchgarwch a pharch ei gyd- wladwyr yn y cysylltiad yma na Jethro Tull. Ganwyd Jethro Tull yn Basildon, sir Berks, yn 1674. O ran ei gysylltiadau cymdeithasol yr oedd yn wr boneddig," yn hannu o deulu henafol oedd, yn ol Iarll Cathcart, yn olrhain eu hachau i un o'r enw Johannes Tulle de Cobham, yr hwn a breswyliai yn y rhan honno o'r wlad yn amser Edward III. Cafodd addysg hefyd deilwng o'i safle. Derbyniwyd ef i Goleg Ioan, Rhydychen, yn 1691 ond ni arosodd yno yn hir. Ymddengys mai ei fwriad ydoedd parotoi ei hun ar gyfer bywyd cy- hoeddus a chyda'r amcan yma mewn golwg aeth yn 1693 i Gray's Inn i astudio'r gyf- raith, nid am ei fod yn bwriadu cymeryd y gyfraith fel galwedigaeth, ond er mwyn meistroli egwyddorion sylfaenol llywodr- aethiad y deyrnas. Yn hyn o beth, nid anfuddiol o gwbl i lawer o rai sydd a'u bryd ar fynd i'r Senedd fyddai dilyn ei csiampl. Yn ol yr hyn a ddywed ei fyw- graffydd gwreiddiol yn y Gentleman's Magazine am 1764, aeth Tull am daith trwy'r Cyfandir yn union ar ol gorffen ei efrydiaeth, fel y byddai arfer boneddig- ion o ddysg yn yr oes honno; ond nid yw hyn yn cyd-fyned a'r hyn ddywed Tull ei hun, ac mae yn ddigon tebyg mai cam- gymeriad ydyw. Fodd bynnag, yr oedd gartref yn 1699, oblegid ym mis Mai y flwyddyn honno, cafodd ei alw at y Bar.