Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Ym mis Hydref yr un flwyddyn priod- odd, a desgrifir ef yr adeg honno fel Jethro Tull of Gray's Inn, Gentleman." Yn lIe mynd i'r Senedd fel y bwriadai, newidiodd Tull gwrs ei fywyd yn hollol o'r adeg yma. Y mae rhywfaint o ddir- gelwch ynglyn a'r achos o hynny, ond tebyg yw mai gwaeledd iechyd oedd o leiaf un rheswm. Beth bynnag, yn union wedi ei briodas ymsefydlodd mewn ffarm o'i eiddo ei hun o'r enw Howberry, yn sir Ox- ford, yr ochr arall i'r afon Dafwys o Wal- lingford. Dywed ef ei hun mai damwain, neu yn hytrach nifer o ddamweiniau, a'i gwnaeth yn amaethwr, a rhydd ar ddeall yn cithaf eglur mai nid o'i ddewisiad ei hun yr ymgymerodd ag amaethyddiaeth. Ni chedwais erioed," meddai yn y llyfr a gyhoeddodd yn ddiweddarach, gymaint ag acer o dir ar fy llaw os gallaswn yn rhesymol ei osod i denant." Ond fel tir- feddianwyr eraill, caffai anhawster weith- iau i osod ei ffermydd, ac mae'n debyg mai felly yr oedd gyda Howberry pan ymgy- merodd Tull a'i thrin; a dyma un o'r damweiniau, feallai, a'i gwnaeth yn am- aethwr. Fodd bynnag, at amaethyddiaeth y trodd, ac fel amaethwr y treuliodd y gweddill o'i oes. Yn Howberry dechreuodd Tull roddi mewn ymarferiad yr egwyddorion a'u gwnaethant yn enwog wedi hynny fel syl- faenydd yr Hwsmonaeth Newydd." Yr oedd fel amaethwr o leiaf ganrif o flaen ei oes, a chafodd am y rheswm hwnnw, mae'n debyg, y fath angharedigrwydd a gwawd ar law nifer helaeth o'i gydoeswyr ag a fuasai yn hollol anealladwy yn yr oes yma, oni bai ein bod ninnau yn lled dueddol i wneyd yr un peth a rhai tebyg iddo. A'r cwbl oherwydd ei ddull newydd o drin tir. Y gwasanaeth mwyaf uniongyrchol feallai a wnaeth Jethro Tull i amaethyddiaeth tra yn Howberry oedd dyfeisio'r peiriant hau, yr hwn a wnaeth yn y flwyddyn 1701. Galwyd yr offeryn, fel y gelwir ef eto, yn Drill. Y mae hyn yn ddigwyddiad lled bwysig yn hanes amaethyddiaeth, oblegid gellir edrych ar y drul fel y cyntaf o nifer fawr o offerynau a chelfi a achosodd chwyl- droad yn y dull o amaethu ym Mhrydain cyn diwedd y ganrif. Ac mae'r amgylch- iadau a arweiniasant Tull i ddyfeisio ei drul yn ddyddorol. Yr oedd y rhan fwyaf o ffarm Howberry yn dir âr. Nid oedd fawr o elw i'w gael oddiwrth dir felly yr adeg honno, a phenderfynodd Tull ei roddi 011 dan sanfoin, yr hwn, fel y gwyr y dar- llennydd yn ddiameu, sydd yn gnwd par- haol o'r un natur a chlofer. Yr oedd yr had yn brin, yn ddrud, ac yn lled ddrwg y pryd hwnnw, a sylwodd Tull nad oedd ond swm cymharol fychan o'r saith bwsiel i'r acer a heuid yn gyffredin yn tyfu, ac ymhellach fod cnwd gwell o sain- foin fel rheol yn y mannau lIe byddai llawer o'r had wedi methu. Wedi sylwi a gwneyd nodiadau manwl ar hyn, daeth i'r penderfyniad mai un rheswm am fod cymaint o'r had yn methu oedd eu bod yn rhy agos at eu gilydd yn y tir ac yn cael eu claddu yn rhy ddwfn. Yna rhodd- odd y peth i brawf trwy wneyd rhychau ar ddarn neillduol o dir, a hau sainfoin yn y rhychau, gan orchuddio'r had yn wastad oll yn yr un dyfnder. Bu'r prawf yn llwyddiant hollol, a phenderfynodd Tull weithredu yn ol y cynllun yma ar yr oll o'r tir. Ond y flwyddyn ddilynol, er mawr benbleth i Tull druan, aeth ei weision oll ar streic yn erbyn y dull newydd, ac ni fynnent ar gyfrif yn y byd wneyd dim ag ef. Newid y dull o hau a fyddai eu tadau a phawb trwy'r wlad yn arfer ? Byth Eled Jethro Tull a'i ffoledd i ble'r elo, ond na ddisgwylied i ddynion doethion fel y gwasanaethyddion hynny fod byth mor afresymol a mynd yn groes i arfer gwlad. Credai Tull eu bod oll wedi ymgynllwyno yn ei erbyn. Trodd hwynt ymaith o'i was- anaeth, a phenderfynodd roddi i fyny ei gynllun yn hollol os na fedrai lunio rhyw fath o beiriant i hau ei sainfoin yn well nag y gwnelai â llaw. Yn nechreu ei oes, cerddoriaeth oedd difyrrwch Tull, a chwareuai yn fedrus ar yr organ. Yr oedd wedi astudio yn fanwl hefyd holl beirianwaith yr offeryn, a bu'r wybodaeth yma yn dra defnyddiol iddo yn awr, oblegid oddiwrth y rhigolau a'r taf- odau yn seinfwrdd ei organ y cafodd y syniad yn ol yr hwn y cynlluniodd ei beir- iant hau. Dechreuodd weithio rhag blaen, a chyn pen hir perffeithiodd ei offeryn, yr hwn, fel y dywedwyd, a alwyd yn Drill. Fe welir nad oedd drul Jethro Tull yn ddim ond cyfaddasiad o seinfwrdd yr organ ar y dechreu, ond atebodd y diben yn hollol, a gallwn yn hawdd ddychymygu mor falch y teimlai Tull yngwyneb ei lwyddiant, yn enwedig wrth gofio am y gweision hynny aethant ar streic. Y mae yn amlwg fod y drul yma o waith Tull yn un hollol wreiddiol o ran ei chynllun, a theilynga yn llawn y clod am ei dyfeisio. Yr oedd John Worlidge, o Petersfield, yn sir Hamp, awdwr y Systema Agriculturae, wedi dyfeisio rhyw fath o