Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

offeryn hau cyn hyn, ond ni wyddai Tull ddim am dano yn ol pob hanes a pha un bynnag, ymddengys na fu offeryn Wor- lidge fawr o lwyddiant, oblegid nid oes neb yn cyfeirio ato ond efe ei hun. Aw- grymai gelynion Tull mai lladrata'r syniad a wnaeth, ac nad oedd ei drul yn ddim byd newydd. Ond mae yn eithaf eglur nad oedd hyn yn ddim ond cenfigen. At hau sainfoin y gwnawd y drul ar y dechreu, ond defnyddiwyd hi yn ddioed at hau yd, yr hyn a wnai yr un mor foddhaol. O'r adeg yma cymerai Tull fantais ar bob cyfleustra a gaffai i bregethu athraw- iaeth yr Hwsmonaeth Newydd. Yr oedd dau beth yn neillduol ag y gosodai bwys mawr arnynt, sef hau had o bob math yn wastad a rheolaidd, a chadw'r tir yn lân,- dwy o egwyddorion sylfaenol amaethu da ymhob oes, ond pethau newydd hollol yr adeg honno. Ac nid ydym i dybied mai ar y ffaith fod ei drul wedi bod yn llwydd- iannus yn unig yr oedd Tull yn sylfaenu ei ddysgeidiaeth. Yr oedd Jethro Tull yn rhywbeth mwy na dyfeisydd y drul. As- tudiai natur yn fanwl a diwyd, ac ymhell- ach na hynny, yr oedd yn feddiannol ar wir ysbryd yr athronydd gwyddonol. "Gan nad oes," meddai mewn un man, yr un canon i gyfyngu ein syniadau ynglyn ag amaethyddiaeth, nac i gollfarnu neb am heresi, y mae pob dyn yn hyn o beth yn rhydd-feddyliwr, a rhaid iddo feddwl yn unol a'i reswm pa un ai mynn ai peidio." Ac meddai yn ddiweddarach, Y mae er budd i bob un sydd yn byw trwy fara fod gwir egwyddorion yn cael eu sefydlu mewn amaethyddiaeth, ond ni ddylid cydnabod yr un o honynt fel y cyf- ryw os na fydd wedi ei phrofi yn drwyadl dylai pob dyn foddloni ei hunan trwy wneyd arbrofion drosto ei hun." Dyna athrawiaeth Jethro Tull, a'r egwyddor ar yr hon y gweithredai, ac mae'r ysbryd yma yn unig, ar wahan i bobpeth arall a'i nod- weddai, yn ei osod, a barnu wrth weith- iau y rhan fwyaf o'i gydoeswyr, ymhell ar y blaen i neb o honynt. Ymhen yn agos i ddeng mlynedd wedi iddo gynllunio ei drul, gwerthodd Tull ran o'i etifeddiaeth yn sir Oxford, a symudodd ef a'i deulu o Howberry i fferm arall berthynol iddo o'r enw Prosper- ous," yn agos i Hungerford, yn sir Berks. Oddeutu'r un adeg aeth ei iechyd i'r fath gyflwr anfoddhaol fel y bu raid iddo adael popeth a mynd i'r Cyfandir am adferiad. Treuliodd dair blynedd yn yr Eidal a lle- oedd eraill, gan wneyd arosiad lled faith, gellid tybio, ym Montpelier, yn Ffrainc. Dychwelodd o'r lIe yma yn y flwyddyn 1714 i'w gartref newydd yn Prosperous Farm. Yma, 0 hyn allan y bu fyw, ac y llafuriodd yn ddiflino am gyfnod o chwe blynedd ar hugain, yn aml mewn gwaeledd corfforol, yn aml mewn blinder ysbryd, i berffeithio'r gyfundrefn o drin tir a ddäeth i gael edrych arni yn gyffredinol fel yr Hwsmonaeth Newydd. Nis gallesid disgwyl i sylwedydd mor graff a Tull dreulio tair blynedd ar y Cyf- andir heb gael gafael ar ryw syniad new- ydd ynglyn ag amaethyddiaeth, a bu iddo, wedi ei ddychweliad, wneyd amryw o well- iantau pwysig yn ei gyfundrefn, y rhai oedd yn sylfaenedig ar ei sylwadaeth yn y gwledydd yr ymwelodd â hwynt. Beth oedd golygiadau Tull ynglyn ag effaith a gwasanaeth gwrtaith yn y tir cyn ei ym- weliad a'r Cyfandir nis gwyddom, ond dygwyd ffeithiau pwysig yn dal perthynas a'r cwestiwn i'w sylw tra yno, a daeth y peth yn un o brif bynciau ei ymchwiliad. Yr hyn a dynnodd ei sylw fwyaf ydoedd y dull o drin y gwinllanoedd yn Lan- guedoc Yr oedd y tir rhwng y rhesi gwin- wydd yn cael ei aredig, a'r gofal mwyaf yn cael ei gymeryd i falurio'r pridd yn drwyadl, ac i'w gadw hefyd yn y cyflwr hwnnw. Wrth ymholi, cafodd nad oedd dim gwrtaith yn cael ei ddefnyddio yn y gwinllanoedd yma o gwbl,-fod y llafur a roddid ar y tir i'w falurio a'i gadw yn lân yn cymeryd lIe gwrtaith, ac nad oedd dim arall yn angenrheidiol tuag at gael cnwd. Ar ol dod adref rhoddodd Tull y peth i brawf ar ei dir ei hun yn Prosperous. Gwnaeth arbrawfion i ddechreu gyda maip a phytatws, ac yna gyda gwenith. Dyfeis- iodd amryw o welliantau yn ei offerynnau llafurio, yn enwedig yr horse-hoe, a'r can- lyniad fu iddo yn ol y dull newydd allu tyfu gwenith ar yr un tir am dair blyn- edd ar ddeg yn olynol heb unrhyw wrtaith 0 gwbl, a gwell cnydau hefyd nag a gaffai ei gymydogion. Dyma, felly, egwyddor newydd eto mewn amaethyddiaeth, yr hon oedd i wneyd cyfundrefn Tull yn gyflawn. Yn 01 ei athrawiaeth ef bellach, llafurio y tir oedd sylfaen y cwbl,-malurio digon ar y pridd, a'i gael yn ddigon dwfn fel ag i roddi chwareu teg i'r cnwd i wreiddio ac i chwilio am ei ymborth. At hyn, yr oedd yn ofynnol cadw chwyn i lawr, yn Ue eu bod yn lladrata'r ymborth a ddylai fynd i faethu'r cnwd, a dylid hau gyda'r drul