Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

rhag i'r had fod yn anwastad ac yn rhy dew. Yr egwyddorion yma oedd yn cyf- ansoddi'r Hwsmonaeth Newydd. Yng nghyfundrefn Tull y cafodd yr hyn a elwir yn awr yr amaethyddiaeth wyddonol ei gwir ddechreuad. Mae'n wir fod nifer o rai wedi ysgrifennu llyfrau ar amaethydd- iaeth cyn hyn, megis Gabriel Plattes, Syr Hugh Plat, a John Worlidge, ond nid oedd yr un o honynt wedi gwneyd unrhyw ymgais i ddarganfod egwyddorion o gwbl, ac nid oedd fawr yn newydd yng ngwaith neb o honynt. Rhyw gymysgedd o bob math o bethau oedd llyfrau amaethyddol y 17eg a'r 18fed ganrif, yn dechreu gyda gwrteithio gwenith, yna cynghorion at wella cur mewn pen a'r llosg eira, ac yn diweddu gydag awgrymiadau ar y dull goreu i wneyd coffi. Ond yr oedd Tull yn wreiddiol yn ei syniadau, ac yr oedd ei gyfundrefn, fel ei gosodir allan ganddo, yn ymgais deg i ymdrin ag egwyddorion gwyddonol ei bwnc. Cychwynnodd gyda'r amcan o gael allan y gwir reswm am beth- au drosto ei hun, a sefydlu ei gyfundrefn ar egwyddorion oeddynt yn seiliedig ar ganlyniadau arbrofion, a dyma wedi'r cyfan ydoedd ystyr amaethyddiaeth wydd- onol. Llwyddodd i wneyd yr hyn a ddy- munai i raddau pell, a buasai yn ddiameu wedi gwneyd llawer mwy pe buasai'r amgylchiadau yn fwy ffafriol. Y syndod yn wir ydyw fod ei gasgliadau mor gywir pan ystyriwn faint mor lleied o fanteision oedd yn ei gyrraedd. Nid oedd gwybod- aeth yr oes honno am fferylliaeth a llysieu- aeth ond hynod o gyfyng. Nid oedd gwy- bodaeth Tull ei hun am lawer o bethau ond cyfyng iawn yng ngoleuni'r oes bresen- nol, ond yr oedd wedi cael gafael ar y cyf- eiriad priodol, ac yn y fan hon y mae ei athrylith yn dod i'r golwg. Y mae'n ffaith ddyddorol mai amaeth- wyr Ysgotland oedd y rhai cyntaf i gy- meryd mantais ar gyfundrefn newydd Tull o amaethu. Oddiyno gweithiodd ei ffordd i Northumberland oddeutu 1780, ac yn raddol wedi hynny i rannau eraill o Loegr a Chymru. Pa bryd y dechreuwyd hau yd gyda'r drul yn ol dull Tull yng Nghymru nis gwyddis yn hollol, ond yr oedd y drul yn cael ei defnyddio mewn rhai mannau oddeutu dechreu'r ganrif ddiweddaf. Dy- wed Gwallter Mechain yn ei Survey of North Wales," a gyhoeddwyd yn 1810, fod rhai yma ac acw yn credu yn y gyfundrefn newydd ond yr oeddynt," meddai, "yn cael eu hystyried fel aelodau o ryw sect nowydd, ac nid oeddynt yn cael llawer ddychweledigion." Ond cyfeiria at rai boneddigion yn sir Drefaldwyn oedd yn ddisgyblion o Ysgol Tull, y rhai oedd yn defnyddio'r drul o ran difyrrwch yn fwy na dim arall. Yn ol Gwallter Mechain, Mr. John Lloyd o'r Trawscoed oedd y cyn- taf i ddod a'r drul i sir Drefaldwyn, ac yr oedd hyn, mae'n ymddangos, cyn y flwy- ddyn 1800. Rywfaint yn ddiweddarach, deuwyd a'r drul newydd i sir Feirionnydd gan Syr Robert Vaughan o Nannau, un o'r rhai a wnaeth fwyaf yn ei ddydd tuag at wella amaethyddiaeth yng Nghymru. Yr oedd Tull yn y cyfamser yn gwneyd yr oll a allai i ddod a'i gyfundrefn new- ydd o amaethu i sylw, ac mae gennym hanes am dano mewn gohebiaeth ag amryw o bendefigion mwyaf dylanwadol y wlad yr adeg honno, megis Iarll Ducie, Iarll Halifax, ac Iarll Cathcart, i ddydd-lyfr yr hwn yr ydym yn ddyledus am lawer o wybodaeth ynglyn a symudiadau Tull. Bu'r tri pendefig yma, yn enwedig y blaen- af a'r olaf 0 gynorthwy mawr iddo trwy roddi ei ddull mewn ymarferiad ar eu tir- oedd eu hunain. Wedi cael digon o brawf ar ragoriaeth ei gyfundrefn newydd, penderfynodd Tull gyhoeddi llyfr gyda'r amcan o egluro ei hegwyddorion, ac yn y flwyddyn 1731, ar- graffwyd a chyhoeddwyd yn Llundain y rhan gyntaf, yn cynnwys pum pennod o'r gwaith. Bron yn uniongyrchol ad-ar- graffwyd ef yn yr Iwerddon heb yn wybod i Tull, yr hyn a achosodd y fath ofid iddo fel y penderfynodd na chyhoeddai ddim yn ychwaneg. Ond yn ddiweddarach, bu iddo gymeryd ei berswadio, gan ei gyfeill- ion pendefigaidd mae'n debyg, i gario allan ei gynllun gwreiddiol, ac yn y flwy- ddyn 1733, cyhoeddwyd y llyfr cyfan dan yr enw The New Horse-Houghing Hus- bandry or A Treatise on the Principles of Tillage and Vegetation." Yn y gwaith clodfawr yma, mae Tull, nid yn unig yn egluro ei gyfundrefn, ond yn gwneyd ym- gais i osod amaethyddiaeth am y tro cyn- taf ar sylfaen wyddonol, trwy ddechreu gydag elfennau llysieuaeth a fferylliaeth. Fel llawer o awduron y cyfnod Georgaidd, mae yn crwydro dipyn weithiau, ac yr ydym yn cael yn ei lyfr, ynghanol sylwad- au ar ymborth llysiau ac effaith yr horse- hoe a'r drul, ymosodiad lled ddiangen- rhaid ar amaethyddiaeth y Rhufeiniaid fel ei gosodir allan yn Georgics Virgil. Ond mae hyn wedi'r cyfan yn beth y gallwn yn