Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

hawdd ei esgusodi ynddo. Y mae'r llyfr yn cynwys llawer o bethau anghywir yn ol ein syniad ni am bethau yn ddiameu, ond mae egwyddorion sylfaenol y gyfundrefn a osodir allan yn berffaith gywir. Yr ydym i farnu Tull yng ngoleuni ei oes ei hun ac nid yr oes bresennol, ond po nesaf y deuwn at ei oes ef, disgleiriaf yn y byd yr ymddengys ei athrylith. Y mae ei ddysgeidiaeth o ddyddordeb arbennig ar hyn o bryd, pan mae tuedd gref yn y rhai sydd yn astudio amaethyddiaeth i fynd yn ol at ei syniadau. Achosodd y llyfr hwn gynnwrf yn y byd amaethyddol, fel yr oedd yn ddigon naturiol i athrawiaeth mor newydd wneyd. Ymosodwyd ar yr awdwr, druan, yn y dull mwyaf anfoneddigaidd gan rai: ond, er y cyfan, ennill tir a ddarfu'r Hwsmonaeth Newydd yn y di- wedd. Y mae bellach yn cael ei harfer yn gyffredinol, ac mae ymchwiliad a phrof- iad dwy ganrif yn ategu egwyddorion ei sylfaenydd. Bu ymosodiadau anheg ei feirniaid yn boen fawr i ysbryd Tull oblegid, er ei holl rinweddau, nis gellir dwcyd ei fod yn feddiannol ar lawer iawn o amynedd. Lled groen-deneu ydoedd ar hyd ei fywyd, ac mae lIe i gredu fod ei deimladau ar rai ad- egau yn hynod o chwerwon. Mae yn ddi- ameu fod gweled ei egwyddorion yn cael derbyniad gan ei gyfeillion wedi bod yn gefnogaeth fawr iddo, a phe cawsai fyw am dipyn o flynyddoedd yn hwy, buasai wedi gweled ei hun yn cael ei ddesgrifio fel dyn enwog. Ond aeth Tull, druan, i'w fedd cyn i fawr neb amgyffred faint o wasanaeth oedd wedi ei wneyd i'w wlad. Tynnodd ei lyfr gryn sylw ar y Cyfan- dir yn ogystal ag yn Lloegr. Cyfieithwyd ef i'r Ffrancaeg yn 1753, a golygwyd y cyf- ieithiad gan Buffon, y naturiaethwr. Oddeutu'r un amser, gwnawd ail gyfieith- iad, yr hwn a olygwyd gan yr amaethydd Ffrengig enwog Duhaniel du Monceau. Dengys hyn y dyddordeb a gymerid yng nghyfundrefn Tull yn Ffrainc, a'r pwysig- rwydd a gysylltid â hi. A dyddorol yw sylwi yn y fan hon fod hyd yn oed Vol- taire yn ddisgybl i Tull, a'i fod yn trin tir ar ei etifeddiaeth yn Ferney yn ol eg- wyddorion yr Hwsmonaeth Newydd. Ar Coleg Gwyddonol Trifysgol Durham, N ewcastle-wpon-Tyne. ol ei holl helbulon, nis gallwn lai na gof- idio na chafodd Tull wybod hyn. Ar hyd ei fywyd dioddefai Tull oddi- wrth wendid corfforol, ac am y chwe blyn- edd diweddaf, ymddengys nad aeth fawr oddicartref. Yr oedd ei ysbryd yn dal yn fywiog a'i feddwl yn glir, ond o'r diwedd aeth ei lesgedd yn drech nag ef, a daeth ei holl flinderau a'i lafur i ben. Bu farw Jethro Tull yn Prosperous Farm yn gyn- nar ym mis Mawrth, 1740, yn chwech a thri ugain oed. Gadawodd ei eiddo rhwng ei bedair merch a'i chwaer yng nghyfraith. Yr oedd ganddo un mab, yr hwn a ddyg- wyd i fyny yn y Fyddin, ond y cwbl a ad- awyd iddo ef oedd swllt. Trodd allan yn groes i ddymuniadau ei dad, i'r hwn y rhoddodd lawer o boen yn ei fywyd. A chyfarfyddodd a'r diwedd a addewir yn aml i blant anufudd, oblegid bu farw yn 1764 yng ngharchar y Fleet. Y mae'r byd fel pe byddai a chenfìg.n neilltuol at rai, 0 leiaf felly y bu gyda Tull. Ar hyd ei oes bu yn afiach cafodd fwy na'i ran o'i erlid gan ragfarn ei gyd- oeswyr; siomwyd ei holl obeithion yn ei unig fab. Ac fel ag i roddi pen ar y cwbl, wedi ei farw anghofiwyd ef yn hollol yn ei ardal enedigol. Yn nechreu'r ganrif ddi- weddaf, ni wyddai neb ym mha le yr oedd ei fedd, yr hyn sydd yn beth hynod pan gofiom am ei safle gymdeithasol a'i gysyllt- iadau teuluol yn yr ardal. Ac ni fuasai neb yn gwybod eto oni bai i ryw hynaf- iaethydd yn 1889 ddod o hyd i gyfeiriad at ei gladdedigaeth yng nghofnodion eglwys Basildon. Druan o Jethro Tull Nid oedd yn haeddu cael ei anghofio mor lwyr a hyn. Yr oedd yn rhy oleuedig i gael ei werthfawrogi gan ei oes. Ond mae'r dydd yn dod pan fydd pob amaethwr ym Mhry- dain wedi cael addysg wyddonol, ac y bydd yn deall yn drwyadl egwyddorion ei gel- fyddyd. Y pryd hwnnw, cyrhaedda Jethro Tull enwogrwydd mwy, a chaiff ei enw y parch a deilynga. Gyda llawer o briodoldeb y gellir dweyd yn y fan hon gyda, William Lleyn, Ymaros ti ymrest hedd, 0 ymaros daw mawredd." C. BRYNER JONES.