Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

VII. ANERCHIADAU A CHYNGHORION. oedd yn hollol naturiol i hen filwr i'w wneyd. Dyma fel y dywedai unwaith, mewn seiat, mae'n debyg,- Beth oedd Batl Waterlw yn ymyl Batl Calfaria ? A beth oedd y Little Cor- poral (Napoleon) fel General yn ymyl Iesu Grist? Tydw i ddim yn gwybod i Napoleon na Wellington ollwng yr un shot eu hunain yn Waterlw; y sowldiwrs, poor fellows, oedd yn gwneyd hynny. Ond am Iesu Grist, y General mawr sy gyno ni, mi aeth o i ffrynt y fatl ei hunan, ac mi ollyngodd hen ganans mawr cyfiawn- λ. Thomas. HEN GYMERIADAU LLANRWST. 11. Robin Busnes. Capelulo. AN yn dweyd ei brofiad yn y seiat, neu yn dweyd gair mewn cyfarfod dir- west, arferai Tomos yn fynych iawn ddefnyddio ffugyrau a chymariaethau yn dwyn cysylltiad â'r bywyd milwrol yr hyn der ar ben ei holl elynion. Pan oedd o'n gweld fod y fatl yn troi o'i blaid, dyma fo'n gwaeddi Gorffennwyd Dyna ichi parting shot; ac mae'r diafol a'i griw heb ddwad atyn ei hunain byth ar ei hol hi. Gneyd y cwbwl ei hun ddaru'r General mawr yma. Clirio llyfrau'r nef yn llawn, Heb ofyn dim i mi.' Yn amser rhyfel y Crimea, dywedai Pe baswn i yn cynnyg fy hun i Lord Raglan i fynd allan i'r Crimea, mi fasa'n deyd wrtha i yn union deg, Too old, Thomas;' ond pan gynhygis i fy hun i army arall, soniodd y Commander mawr ddim am ffasiwn beth. Ddaru fo ddim cymin ag edrach a oedd 'y ngwallt i wedi llwydo, ne a oedd 'y nghefn i wedi camu. Y cwbwl ddaru fo oedd rhoi'r uniform am dana i hefo'i law ei hun, a deyd dan wenu'n ffeind yn y 'ngwymad i,—' FalJ