Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

in Tomos Williams.' Mae'n wir mai rhyw fartshio dipyn yn drwsgwl yr ydw i, ond ches i'r un codwm eto ac os byddai'n cwyno mod i'n wan, ac fod y baich yn drwm, mi fydd ysgwydd y General mawr ei hun o dano fo mewn dau funud." Eto,-­ Mi fyddwn yn clywad lliwiad yn amal iawn fod byddin Lloegar yn derbyn lladron, meddwon, a phob sort o hen straglers i mewn i'w gwasanaeth. Ond rhoswch chi dipyn bach. Mi ddaru Iesu Grist listio hen leidar du i'w serfis ynta, a phan oedd o'n marw ar y groes mi set- lodd 'partments yn y drydydd nef iddo fo yn i ffortiwn. Dyna i chi Mair Magdalen, wedyn honno wedi medru rhoi lojins i gymin a saith o gythreuliaid. Rhaid mai rhyw hen dacla yr oedd Satan yn meddwl y medrai fo fyw hebddynhw oedd y rheini, ac mi gawson ddischarge, ne, wyrach, i gollwng ar ffyrlo. Chafodd y cnafon ddim llawer o groeso pan ddaru nhw gyr- raedd adra yn i hola." Mewn Cymdeithasfa Chwarterol yn y Gogledd, lawer o flynyddau yn ol, cwynid yng nghylch gwaith ieuenctyd, yn arben- nig, yn arfer geiriau ysgafn ac ofer; nid rhegfeydd yn hollol, ond geiriau tebyg i regfeydd; a phenderfynwyd anfon dau weinidog drwy bob Cyfarfod Misol i rybuddio a chynghori yr eglwysi yng nghylch arferiad o'r fath. Y ddau a ben- odwyd i ddod drwy sir Ddinbych oedd y Parchn. Moses Parry, Dinbych; a John Jones, Runcorn. Adnabyddid Moses Parry fel gwr o gryn awdurdod, deall, a medr, yr oedd yn wr call — cyfrwysgall, os mynner-ac yn un a fedrai fwynhau am- bell dro digrif, neu dro doniol, fel y dy- wedir. O'r ochr arall, yr oedd John Jones yn bregethwr rhagorol iawn, yn un a chryn lawer o ddiniweidrwydd ynddo, ac yr oedd yn hollol at alwad ac awgrym Moses Parry i wneyd unrhyw beth a fynnai ganddo. Yn eu tro, daeth y ddau wr parchedig i Lanrwst, ac ar ddechreu y seiat traddod- odd Moses Parry anerchiad ar yr ynfyd- rwydd o arfer geiriau segur, gan gon- demnio hynny gyda chryn lawer o lymdra. Wedi i dri neu bedwar o'r swyddogion siarad, gofynnodd Moses Parry i John Jones fyned o gwmpas i ymddiddan â rhai o'r aelodau, a dywedodd wrtho yn ddistaw fod yna ddyn (gan bwyntio at Tomos, yr hwn a adwaenai yn dda) yr hwn a fuasai yn sicr o fedru dweyd tipyn ar y pwnc, ac y buasai, hwyrach, yn rhoddi esamplau o'r geiriau a gondemnid, fel na byddai neb yn camddeall yn eu cylch. Llyncodd John Jones yr abwyd, ac ym mhen ychydig daeth at Tomos, ac wedi agor yr ymddi- ddan ag ef, gofynodd iddo beth oedd y geiriau tebyg i regu a arferid fynychaf yn Llanrwst a'r gymydogaeth. Ho," meddai Tomos yn hollol ddi- ymdroi, dyma i chi rai ohonynhw,-gafr gwyllt, drapid las, gafr a'm cipio i, yr achlod fawr, myn diawst, garf a'm sgubo, diwcs anwyl, myn cebyst, ac ar fengoch i." Wrth gael y fath engraifft o eiriadur y gwyr segur, a hynny mor ddiseremoni, ac wrth weled John Jones yn edrych yn hollol ddychrynedig, fel dyn wedi derbyn llawer mwy nag yr oedd wedi bargeinio am dano, yr oedd Moses Parry ymron siglo gan chwerthin. Yna aeth Tomos ymlaen yn debyg i hyn, Am dana i fy hun, fydda i byth yn arfer geiria fel yna ond ar sgawt rwan, yn enwedig pan fydd y cathod acw wedi dwyn cig, ne wedi gneud rhyw sbrêj debyg y tu fewn i'r cwpwr. Rhaid i mi gyfadde y bydd 'y nhafod i yn cymyd cryn leisans os bydd ryw styrbans fel yna yn y ty. Wrth neud cymint o helynt hefo geiria fel hyn, dwn i ddim yda ni ar y reit lein ai peidio. Mi rydw i'n cofio pan oeddwn i yn y Sbaen hefo'r sowldiwrs, fod yna dipyn o sgyrmish un diwrnod hefo'r Ffrancod. Mi 'roedd yna lot o honynhw ar ddarn o wastad o'n blaen ni, a tu ol i'r rheini, uwch i penna, ar dipyn o godiad tir, yr oedd yna lot arall o Ffrancod ond ar y rhai oedd ar y gwastad, wrth i bod nhw yn gosach ato ni, yr oedda ni'n saethu gan mwyaf. Ond dyma Wellington i'r lIe ar gefn i geffyl, a dyma fo'n rhoi'r ordors, Aim higher up (' Anelwch yn uwch i fyny),' gan bwyntio at y rhai oedd ar y codiad tir. Mi wnaethon ninna hynny, ac wedi i ni daflu tipyn o shots i ddychryn tipyn ar y rheini, welsoch chi 'rioed mor fuan y daru ni setlo y lot oedd ar y gwas- tad yn ymyl. 'Doedd y rheini yn ddim ond rhyw hen rabsgaliwns di-doriad oedd Napoleon wedi hel oddiar strydoedd Ffrainc, ond mi 'roedd y rhai oedd ar y top yn trained soldiers-yn hogia peryglus. Felly mae yna berig i ninna wastio'n shots ar ryw bechoda go fychin fel y geiria segur yma 'rydach chi'n son am danynhw, ac yn gadael y pechod mawr-Alcohôl- heb ei dwtsiad. Aim higher up,' medda fi. Pe bae ni yn medru rhoi tipyn o shots effeithiol yn hwn-y trained soldier yma- welsoch chi 'rioed gynt y gwnae ni o'r gora