Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

a rhyw fân dacla o elynion fel rhegi, dwyn, a thorri'r Sabboth, a phetha felly. Rhoi bwlet drwy'r barila yna ddoi a'r byd i'w Ie." Erbyn i'r hen frawd orffen, ac ynghynt o ran hynny, yr oedd gwên siriol o edmygedd, ac, efallai, o gydsyniad, yn ym- daenu dros wynebau Moses Parry a John Jones. Cafodd Tomos ei gwpwrdd yn ber- ffaith lawn at y Sul ar ol yr araeth bert yna. Wedi i Tomos Williams wneyd ei feddwl i fyny yn hollol gadarn i fod yn ddirwestwr ac yn Fethodist Calfinaidd, yr oedd yn selog dros ben gyda llwyr-ymwrth- odiad, ac yn falch ryfeddol o'i enwad. Nid oedd derfyn ar ei ddiolchgarwch am i'r Methodistiaid gymeryd gafael ynddo a'i ymgeleddu, a gadael iddo sefyll ei dreial, fel y dywedai, am fywyd tra- gwyddol. Taswn i ddim yn cael mynd i'r nefoedd yn y diwedd," meddai, ar ol treio byw yn lled agos i'r Gair, ac yn cael 'y mwrw i'r llyn hwnnw mae'r Rhodd Mam yn deyd am dano fo, fasa'r diafol a fìnna ddim yn medru gneyd rhyw lawer o fusnes hefo'n gilydd. Mi fasa'n ffrae gyn- ddeiriog rhyngo i a fo bob dydd. Mi fasa gyno fo eisio i mi regi yno wnawn inna ddim; ac, wrth gwrs, mi fasa'n treio'n meddwi íi ond, no go; mi fynswn i gael bod yn ditotal tragwyddol, faint bynnag o syched fasa fflamia uffern i hunan yn i godi arna i. Y fargen sala fasa'r hen ffelo gin y diafol yn i neud byth fasa mynd a Capelulo i'w hen seler frwmstanllyd." Gwelir mai syniadau lled ddyddorol a goleddai Tomos am uffern. Boed a fo am hynny, gwelir drwyddynt ar unwaith pa mor benderfynol ydoedd i wneyd ei hunan yn hollol anghymwys i fyned iddo, gan nad pa fath oedd y llyn yn llosgi o dân a brwmstan." Digwyddai fod ryw dro mewn ardal wledig, heb fod nepell o Lanrwst, ar fusnes y cerddi a'r almanaciau, a chan ei fod yn bwriadu aros dros nos, ac iddo ddeall fod esiat yn cael ei chynnal yn y capel y noson honno, penderfynodd fyned iddi. Mae'n iawn i mi egluro fod rhyw anghydfod blin wedi torri allan ers tro ymhlith swyddog- ion ac aelodau yr eglwys honno, ac fod Tomos yn eithaf hyspys o'r ymgecru ffol a'r enllibio cableddus oedd yn myned ymlaen rhyngddynt. Gwenai y ddwy- blaid yn ddedwydd arno pan aeth i mewn, nes y buasai dyn yn tybio ar y funud honno fod pawb o'r brodyr yno'n un, heb neb yn tynu'n groes." Dichon fod ei silcan batriarchaidd dipyn yn dolciog, ac nas gallesid, mwyach, honni ei bod yn ddu fod ei hances gwddw dipyn yn afler, a'r cwlwm, nad oedd ffasiwn yn perthynu iddo, wedi cael cyflawn ryddid i grwydro ar dde neu aswy; ac fod ysmotiau ar y gôt fu yn addurn ac yn gynhesrwydd i genedlaethau claddedig-dichon, meddaf, fod rhywbeth yn ymddanghosiad yr hen wr wedi achosi y sylw a'r gwenau a gafodd. Modd bynnag, efallai, cyn diwedd y seiat, nad oeddynt mor barod i wenu ar yr hen frawd hurt a di-doriad ei berson. Wedi peth siarad mewn ffordd o agor y cyfar- fod, dywedodd un o'r blaenoriaid,— Tomos Williams, mae'n dda gan ein donna ni 'ch gweld chi wedi dwad ato ni newch chi ddeud gair?" Ac, yn wir, dyna'r hen wr ar ei draed, a'r capel drwyddo yn un wên foddhaus o sêt i sêt, a phawb, yn gall ac yn ffol," yn gosod eu hunain yn yr ystum oreu i wrando arno, gan ddisgwyl am gyflawnder o ddigrifwch a hwyl. Ond buan iawn y gwelsant iddynt fargeinio yn rhy ddrud drwy ofyn i'r mar- siandwr cerddi siarad. Gyda golwg lem a llais uchel, rhywbeth fel hyn a lefarodd yr hen wr,- Mi rydw i wedi clywad nad yda chi ddim yn byw yn rhyw gytûn iawn hefo'ch gilydd yn y fan yma ers cryn amser bcllach, ond y'ch bod chi'n ffraeo ac yn tafodi fel Gwyddelod mewn ocsiwn, ne nigars mewn tent, yma. Cebyst o beth ydi hynny, hefyd. Yn eno'r anwyl, bybe sydd wedi codi yn y'ch penna chi, bobol? Mi fyddwn i a Beti Morus, estalwm, yn ffraeo'n gyrbibion a'n gilydd ond yn ein ty'n ni'n hunain, ac nid yn Nhy Dduw, y bydda'n ni'n gneyd hynny. Pobol yn cymyd arnyn nhw fod yn perthyn i rijment Tywysog Tangnefedd Com- mander mwya'r nefoedd a'r ddaear-yn cadw twrw Rhag y'ch cwilydd chi, bobol Mae gweled dynion yn heltar sgeltar mewn ty tafarn yn beth digon hyll; ond mae gweld nhw yn higldi-pigldi mewn capel yn beth saith gwaeth. Da chi, er mwyn y Gwr fu yn ddigon ffeind i farw drosto ni, a hynny heb i ni ofyn iddo fo, treiwch byhafio Cofiwch pwy ydach chi'n gymyd arnoch ydach chi. Peth am- heus oedd i'r llongwrs rheini gysgu ar y voyage honno i Tarsis, estalwm; ond yr oedd i Jona gysgu yn gneyd y busnes yn waeth ganwaith. Wrth gwrs, mi dalodd Duw am 'partments iddo fo mewn draw- ing room oedd gen rhyw hen filionêr